Mae S4C wedi cyhoeddi bydd Y Llais yn dychwelyd yn gynnar yn 2026 ac mae’r her i ddarganfod talent fawr nesaf Cymru yn dechrau heddiw gyda cheisiadau ar agor yn syth.

Mae’r newyddion yn cael ei gyhoeddi heddiw wrth i Rose Datta, enillydd y gyfres gyntaf, berfformio ei sengl newydd, Gwerthfawr, yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Margam.

Mae’r sengl wedi ei chyd-gyfansoddi yn arbennig iddi hi gan ddau o enwau mawr y byd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt: y gantores-gyfansoddwraig a'r seren West End, Mared Williams, a'r cynhyrchydd/cerddor Nate Williams sydd wedi gweithio gyda bandiau eiconig fel Take That a Jamiroquai.

Fe wnaeth y gyfres gyntaf o Y Llais roi llwyfan i lwyth o dalent newydd o bob ardal o Gymru, gyda chlipiau o’r gyfres yn mynd yn feiral ar TikTok, a chynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C ac Y Llais yn cael 4.7 miliwn o sesiynau gwylio.

Mae Y Llais wedi bod yn llwyddiant mawr o ran denu cynulleidfaoedd iau a newydd i S4C gyda dros hanner y gynulleidfa dan 45 oed, a thraean o wylwyr yn siaradwyr di-Gymraeg.

Fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios, The Voice yw Y Llais, sy’n cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.

Dywed Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, am yr ail gomisiwn: “Mae'r fformat ‘amser brig’ yma yn cynnig adloniant hwyliog a chyffrous i'r teulu cyfan, ac rydym wrth ein bodd bod gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt, wedi mwynhau cymaint.

“Roedd talent o bob cwr o Gymru yn y gyfres gyntaf, a phwy a ŵyr pa dalent bydd y gyfres yn datgelu y tro yma.”

Ychwanegodd Wil Kilsdonk, Pennaeth Masnachfraint The Voice yn ITV Studios: "Roeddem yn clywed adborth mor wych o bob cornel o'r wlad a thu hwnt yn ystod y gyfres gyntaf. Mae hi’n wobr arbennig i'r tîm cyfan fod ail dymor ar ei ffordd!"

Gall sêr y dyfodol gymryd eu cam cyntaf tuag at lwyfan Y Llais trwy lenwi’r ffurflen gais yma: http://www.s4c.cymru/yllais

Fersiwn Gymraeg S4C yw'r 75ain addasiad o fformat gwreiddiol The Voice, a bydd y gyfres ar gael i'w gwylio ar S4C, Clic a BBC iPlayer. Bydd mwy o wybodaeth am yr ail gyfres yn dilyn. Fe fydd ITV Studios yn delio â dosbarthiad rhyngwladol.