MAE awdur o Drawsfynydd wedi ysgrifennu am hanes y gwersyll milwrol yn y pentref dros y ganrif ddiwethaf, lle sy’n bwysig iawn i’w deulu ef.
Mae Maes y Magnelau yn dangos mewn geiriau a lluniau, hanes y gwersyll a’r effaith gafodd y lle ar y gymuned dros 100 mlynedd yn ôl.
Mae hanes gwersyll milwrol Trawsfynydd o 1903-1959 yn enghraifft enwog o feddiannu tir Cymru at ddefnydd lluoedd arfog Llundain.
Dyma ardal sy’n byrlymu o dreftadaeth a diwylliant Cymraeg.
Ond doedd hynny ddim yn hidio dim ar y peiriant rhyfel a wagiodd y rhosydd o’i amaethwyr a’i ddefnyddio i ymarfer tanio magnelau, gwersyll carcharorion rhyfel a dibenion eraill oedd yn ‘angenrheidiol’ i’r Ymerodraeth Brydeinig.
Clywed y gynnau mawr yn tanio yma a roddodd flas cyntaf o’r rhyfel i Hedd Wyn yn ei gartref yng Nghwm Prysor gerllaw.
Bu hynny yn destun ysgrif gan Dyfnallt: “Y noson honno yn y Traws, pan adroddwn helynt y tanio ynfyd, yr oedd golau gwyllt yn llygad Hedd Wyn; ac nid oedd neb yn fwy huawdl yn erbyn y ffieiddbeth halog oedd yn puteinio’r fro nag efe.”
Ar ddechrau’r 1950au, gwelwyd yno brotestiadau Plaid Cymru yn erbyn ymestyn y maes tanio gyda neb llai na Gwynfor Evans yn arwain drwy ddefnyddio dull di-drais Gandi o wrthwynebu’r drefn.
Eto, mae cymaint na wyddom am hanes y gwersyll.
Yn y gyfrol hon, mae’r hanes llawn, yr ymateb lleol a chasgliad arbennig o luniau hanesyddol a chyfoes yn gweld golau dydd am y tro cyntaf.
Mae Keith O’Brien yn enedigol o Drawsfynydd yng Ngwynedd, ac yn briod gyda dwy ferch.
Mae’n aelod o Gyngor Cymuned Trawsfynydd ers 1995 ac yn gadeirydd ar gwmni cymunedol Trawsnewid ers ei ymgorffori yn 1998.
Mae hefyd yn gadeirydd Cyfeillion Yr Ysgwrn, gr?p o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu at nod ac amcanion prosiect yr Ysgwrn (cartref Hedd Wyn), sy’n cael ei warchod bellach gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ganddo nifer o ddiddordebau, megis hanes lleol, cerdded a beicio ond heb os nag oni bai, tynnu lluniau yw ei brif ddiddordeb.
Daeth tad Keith O’Brien, John ‘O’B’ O’Brien i Gamp Traws i wneud ei wasanaeth cenedlaethol gyda’r EDU (Explosives Demolition Unit) o’r Royal Army Ordinance Corps yn dechrau’r ‘50au, cyn priodi ac ymgartrefi yn y Traws weddill ei oes.
Lansiwyd llyfr Keith yn Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn, mewn noson ddifyr ond hynod emosiynol.
Gwnaeth Yr Ysgwrn dderbyn croes Hedd Wyn i’r oriel ar y un noson, 101 o flynyddoedd wedi ei golli yn y Rhyfel Mawr.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.