Nos Iau, 17 Ionawr yng Nghwmtirmynach, cyflwynwyd siec o £2,500 i Gronfa Cleifion, Uned Ganser Glan Clwyd. Daeth Iona Davies, Clawddnewydd sy’n edrych ar ol ochr elusennau’r uned i dderbyn y siec.
Dyma’r arian a gasglwyd gan Glwb Gwnïo Cwmtirmynach wrth rafflo’r cwilt a wnaethpwyd y llynedd.
Dymuniad y clwb oedd prynu offer ar gyfer y cleifion a gobeithir prynu offer tebyg i ‘Syringe Driver’, ‘Nebuliser’, a chadair i orwedd arni.
Yn ei sgwrs mynegodd Iona y byddai’r uned Ganser yn falch o gael bagiau wedi eu gwnio i ddal offer cïemotherapi i’r cleifion allu eu cario ar y ward.Mae amryw o’r dosbarth â diddorbed mewn creu’r bagiau. Mae Iona wedi rhoi patrwm i ni.
Os oes rhywun arall am ein helpu, cysylltwch ag un o aelodau’r clwb, byddwn yn falch iawn o’ch cymorth.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.