Yn dilyn diwrnod agored yng Nghwt Carys Bryn, gwerthwyd raffl i godi arian tuag at Bryn Beryl.
Gwaith Cian Owen, Porthysgaden (Hendre Bach) wedi’i fframio, oedd yr eitem yn y raffl.
Mae Cian yn artist yn ei amser hamdden; mae’n artist oriel ym Mhlas Glyn y Weddw.
Roedd Cian eisiau codi’r arian i staff Bryn Beryl am roi gofal arbennig i’w nain, Janet Owen, Tudweiliog.
Enillwyd y raffl gan Iona Williams o Lansannan.
Diolch i Mirsi, Llyr Bryn, Tanya Whitebits a Menna Pengamdda am eitemau tuag at y raffl ac i Ysgol Cymerau a Pitstop am helpu i werthu raffl.
Codwyd £525.
Mae printiau o’r gwaith ar gael drwy ffonio 07817 055831.
Yn y llun o’r chwith: Sara Jones (rheolwr wardiau Ysbyty Bryn Beryl), Janet Owen, Cian Owen ac Angharad Williams.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.