Roedd 2018 yn flwyddyn bwysig i John ac Alun, wrth iddynt ddathlu 20 mlynedd o’i sioe radio poblogaidd.

Ers hynny mae’r ddau wedi bod yn brysur yn paratoi albwm newydd ac yng nghanol yr holl brysurdeb yma fe gafodd y ddeuawd eu hurddo gan yr Eisteddfod yn Llanrwst a’u derbyn i’r Wisg Werdd.

Cyrraedd y Cychwyn yw teitl y casgliad newydd. Mae’n gyfeiriad i bwysigrwydd eu cynefin, sy’n destun mor amlwg yn eu caneuon erioed.

Ar glawr y CD gwelwn lun o’r ddau ym Mhorth Cychod, Tudweiliog; bae bach cysgodol hyfryd ger Tudweiliog, sy’n agos i’w calonnau.

Fe recordiwyd yr albwm yma yn Stiwdio Aran, Groeslon gydag Emyr Rhys yn cynhyrchu. Emyr oedd cynhyrchydd eu casgliad cyntaf, Yr Wylan Wen yn 1991, felly mae teitl y CD yn gydnabyddiaeth o hwnnw hefyd.

Mae sawl nodwedd ddiddorol i’r casgliad yma. Mae Ar y ffordd yn un o hen ganeuon ‘Hergest’ sy’n trafod testun sy’n gyfarwydd iawn i John ac Alun.

Heblaw hynny, mae’r caneuon yma i gyd yn rhai gwreiddiol, nifer ohonynt gan y ddeuawd eu hunain, gan dderbyn cefnogaeth awduron fel Hywel Gwynfryn sydd wedi cyfrannu i rai o’u caneuon mwyaf eiconig dros y blynyddoedd.

Mae John ac Alun o hyd yn ceisio cefnogi artistiaid newydd ac yn falch o dderbyn eu cefnogaeth hwy yn eu tro.

Cawn ganeuon a ysgrifennwyd yn arbennig i’r casgliad gan Emma Marie (Cuddio o’r Diafol) a Mei Gwynedd (Dyro i mi arwydd).

Mae’r ddeuawd yn arbrofi gyda sawl arddull, gan gynnwys bl?s, Lladin a ‘bluegrass’ a chlywir Alun yn cymryd y llais blaen ar gân am y tro cyntaf gyda’r gân ysgafn - Ble Mae fy Sbectol?. Mae Gwynt Teg yn ein hatgoffa o ganeuon canu gwlad y Rolling Stones tra bod Peintio’r Byd yn Goch yn deyrnged amlwg i arddull Johnny Cash ac wedi’i ryddhau fel sengl ar wefan www.stiwdioaran.com

Mae gan John ac Alun gyfres o gyngherddau yn arwain i fyny i’r Nadolig hefyd.