Oedfa Eciwmenaidd

NOS IAU, 21 Ionawr, cynhelir Oedfa Eciwmenaidd yn Noddfa am 7yh fel rhan o’r Wythnos Weddi er hybu Undod Cristnogol. Pregethir gan ficer newydd San Pedr, y Parch Andy Herrick. Gofynnir yn garedig am gefnogaeth aelodau eglwysi’r dref. Croeso cynnes i bawb. Merched y Wawr CYNHALIWYD cyfarfod olaf y flwyddyn o gangen Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn Festri Shiloh. Croesawyd pawb yn gynnes gan Ann, ein llywydd, a diolchodd i bawb oedd wedi bod yn canu carolau yn Hafandeg yn gynharach yn y nos. Cydymdeimlodd â theulu y diweddar Olwen Williams, cyn aelod o’r gangen. Llongyfarchodd y tîm cwis, sef Elin, Lena, Dilwen a Mary, ar eu llwyddiant yn dod yn drydydd yng nghystadleuaeth y rhanbarth. Thema gweddill ein cyfarfod oedd ‘Ein darnau ni o’r ‘Dolig’ a threuliwyd orig hynod ddiddorol a phleserus dros ben yng nghwmni chwech o’n haelodau. Yn gyntaf mwynhawyd cyflwyniadau graenus o gerddi Nadoligaidd gan Gillian, ac yna bu Brenda yn arddangos ei dawn rhyfeddol yn addurno cacennau. Bu pawb yn blasu cacen Nadolig tu hwnt o flasus o’i gwaith. Wedyn bu Morwen yn arddangos ei dawn arbennig hithau mewn gwaith crefft, a gwelwyd engreifftiau amrywiol lliwgar a deniadol iawn a grewyd ganddi yn cynnwys cracers a chardiau. Diddorol hefyd oedd gwrando arni yn rhannu ei phrofiadau â ni, ar dreulio’r Nadolig yn Seland Newydd yn yr haul crasboeth. Yna tro Mary oedd hi, a chafwyd ryseitiau diddorol ganddi am ddechreufwyd yn cynnwys ham parma a lolipops cranc. Bu pawb yn blasu unwaith eto ac yn canmol yn fawr. I gloi’r noson, tro Elin oedd hi a bu’n rhannu rhai o draddodiadau ‘Dolig y Garn gyda ni, ac yn dangos sut mae creu bocsys bach defnyddiol allan o gardiau Nadolig. Uchafbwynt cyflwyniad Elin heb os oedd ei thryffls cyfoethog! Roeddynt yn blasu’n hyfryd, er efallai, braidd ychydig yn drwm o ran cynnwys y menyn! Diolchodd Dorothy i’r aelodau am arddangos eu doniau amrywiol a rhoi boddhad i bawb. Paratowyd paned a danteithion Nadoligaidd gan Morfudd, Dilwen ac Elma ac enillydd y raffl oedd Irene. Cynhelir ein cyfarfod nesaf nos Lun, 8 Chwefror, yn festri Shiloh am 7.30yh sef noson gemau bwrdd yng nghwmni dysgwyr y cylch.