Clwb Cinio

YN ÔL yr hanes mae’r mwyafrif llethol ohonom yn treulio’n amser hamdden yn eistedd yn swrth o flaen Polyphemus y parlwr yn grwgnach neu’n gwerthfawrogi yr hyn a welwn ar y sgrîn o’n blaen. Ychydig iawn ohonom sy’n med-dwl ddwywaith am y bobol sydd y tu ôl i’r deunydd welwn. Wel, os felly y bu, mae’n siwr nad felly y mae hi bellach i aelodau’r clwb oedd yn bresennol yng nghy-farfod nos Iau, 7 Ionawr. Fel arfer, adeilad hardd clwb rygbi’r dref oedd y ganolfan a’r siaradwr gwadd oedd Ioan Wyn Evans yn sôn am ‘Bywyd yn y Cyfryngau’.Ar ôl y ginio flasus arferol, cyflwynodd ein llywydd, Densil Morgan, ef ac, ar unwaith roedd yn amlwg ein bod yn mynd i gael araith o naws arbennig. Newydd a diddorol i bawb oedd dysgu am cymhlethdod a manylder swydd cynhyrchydd ym myd y cyfryngau. Nemor i neb ohonom oedd wedi sylweddoli gymaint angen darganfod, dilyn, dewis, dehongli a datblygu sy’n rhaid cyn defnyddio a darlledu’r deunydd ddaw i law. Aeth Ioan Wyn a ni ar daith o’r digrif i’r difrifol – o drallod a dioddefaint Sri Lanka, i ansicrwydd Iwerddon lle mae angen bod yn garcus iawn pan yn ceisio darganfod gwir wraidd cymeriadau ac, yna nôl, nes adref, at gymeriadau ffraeth ac agos atom. Soniodd am ddewrder anhygoel un o’r rhain fel dihangwr heb ei ail rhag gofal ei elynion adeg y rhyfel. Ie, araith afaelgar ac amrywiol gan un arall o “ddisgleirion” ein hardal. Fe’n swynwyd gan agosatrwydd ei agwedd, manylder ei baratoad ac eglurder ei ynganiad. Teimlai pawb y byddau hwn yn gwbl gartrefol o flaen y camera hefyd.Diolchwyd iddo’n gynnes gan Rhys Bebb Jones am ddeunydd ac arddull ddymunol dros ben – ymdeimladau a ategwyd gan bawb.

St Thomas’ Methodist Church

SUNDAY, 24 January, at 10.30am there is a service in English led by David Lowe, with crèche and youth group is available. Coffee and fellowship follows the service.

St Peter’s Church

SUNDAY, 24 January: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid (Holy Communion in Welsh); 10.30am, Main Worship Service (bilingual).