Brondeifi
AR SUL, 17 Ionawr, bu Gareth a Tanya Morgans, Caerfyrddin, yn cynnal gwasanaeth yn y Festri. Roedd y thema yn un hynod amserol ar drothwy Diwrnod Santes Dwynwen - sef Cariad a Chalon. Defnyddiodd Gareth y cyfrifiadur a’r sgrin fawr i gyfleu ei neges, gyda Tanya yn cyfeilio. Diolchwyd i’r ddau gan Aneurin Jones.Ioan Wyn Evans fu’n gyfrifol am y gwasanaeth yn y capel ar Sul, 31 Ionawr. Yn ei anerchiad clymodd neges Dameg yr Heuwr gyda llwyddiant diweddar tîm pêl-droed Cymru. Meinir Evans oedd wrth yr organ, ac Aneurin Jones fu’n gwneud y diolchiadau.Y Sul canlynol (7 Chwefror) y Parch Goronwy Evans oedd wrth y llyw. Ei thema oedd ‘Newid y Ddelwedd’. Yn cyfeilio roedd Beti Evans. Derbyniwyd Diana Bianchi, Caerdydd, ‘nôl yn aelod ym Mrondeifi - gyda hithau wedi ei magu yn y capel a’r teulu wedi cael presenoldeb ym Mrondeifi ers de-gawdau lawer. Bu ei mam, Eluned Davies, yn organydd am flynyddoedd. Cydymdeimlwyd gyda Neville Evans ar golli ei fodryb, Doris Williams, yn 90 oed.Ar brynhawn Sul, 14 Chwefror, cafwyd pregeth rymus gan Beti Griffiths, Llanilar, ar thema y ‘Bugail Da’. Meinir Jones oedd wrth yr organ. Cydymdeimlwyd gyda Robert ac Alice Ewart (Caerdydd) a’r teulu, wedi i Alice golli ei mam yn dilyn salwch hir. Y Sul canlynol (21 Chwefror) Dylan Lewis, Cwmann, fu’n gwasanaethu. Braf iawn oedd ei groesawu ‘nôl i Frondeifi - ac yntau a’i frawd, Dafydd, wedi mynychu’r Ysgol Sul am gynifer o flynyddoedd. Mae Dylan yn adnabyddus yn lleol fel aelod brwd a hynod weithgar yn ei gymuned - a’i bwyslais bob tro ar gynnal a hyrwyddo Cymreictod yn y fro. Cafwyd anerchiad diddorol ganddo ar thema ‘Cysylltu gyda Duw’. Meinir Jones oedd wrth yr organ a diolchwyd i Dylan gan Aneurin Jones. Y Parch Alun Wyn Dafis fydd yn gwasanaethu ar Sul, 28 Chwefror. Gobeithio’n fawr y bydd cynullei-dfa deilwng yno i’w groesawu. Fore Sul, 6 Mawrth, am 11yb byddwn yn dathlu Sul y Mamau a Gwyl Ddewi. Bydd y gwasa-naeth a’r cawl fydd yn dilyn yng ngofal Teulu Ffosyffin, Cwmann. Edrychwn ymlaen at Sul arben-nig, a’r neges fydd un Dewi Sant - ‘Gwnewch y Pethau Bychain’. Gwnewch ymdrech arbennig i fod yn bresennol. Dwynwen Teifi fydd yn gwasanaethu ar 13 Mawrth am 10 o’r gloch, ac yna Diana Bianchi am 10yb ar 20 Mawrth. Estynnir croeso cynnes i bob un o’r gwasanethau, a chofiwch hefyd am yr Ysgol Sul am 10yb bob bore Sul. Mae croeso mawr i aelodau newydd, ac edrychwn ymlaen i’ch gweld.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.