St Peter’s Church
SUNDAY, 20 March: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Palm Sunday (bilingual service).A warm welcome to all.
Cylch Cinio
CYNHALIWYD cyfarfod Gwyl Dewi Cylch Cinio Llanbed ar 3 Mawrth yng Nghlwb Rygbi dan lywyddiaeth yr Athro Densil Morgan. Yn ôl yr arfer croesawyd y gwra-gedd a nifer o ffrindiau’r cylch i’r cyfarfod olaf hwn o’r tymor. Mae hefyd wedi tyfu’n arfer erbyn hyn i ddathlu’r wyl trwy gerddoriaeth a chân. Y gwesteion eleni oedd y cantorion adnabyddus, sef y soprano Helen Gibbon a’r bâs-bariton Kees Huysmans, gyda Elonwy Pugh Huysmans yn eu cyfeilio. Wedi mwynhau’r wledd arbennig o luniaeth a ddarparwyd unwaith eto gan y clwb, braint oedd cael mwynhau’r wledd o gerddoriaeth a gafwyd gan y tri ohonynt.Bu Helen a Kees eu dau’n unawd-wyr buddugol nifer o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Helen yw arweinydd Côr Ty Tawe. Mae Kees yn aelod o’r Cylch ac yn ffigwr amlwg a chyfarwydd ym mywyd cerddorol a masnachol Dyffryn Teifi, tra bod ei briod Elonwy yn arweinydd ac yn gyfeilyddes i Gôr Cwmann ac yn organyddes yn Eglwys San Pedr.Fe agorasant eu rhaglen ar nodyn o ramant gyda threfniant i ddeuawd o Dwys Fel y Nos — trosiad Dic Goodman a Caryl Jones o gân Carl Bohm. Yna cafwyd unawd gan Kees, sef Bryniau Aur Fy Ngwlad o waith T Vincent Davies (prin y byddech yn meddwl mai is-Almaenwr oedd yn ei chanu) a datganiad gan Helen o Mae ‘Na Hedd yn y Dyffryn o’r sioe gerdd Esther gan Nan Lewis ac Eric Jones, gan gyflwyno’r themâu sydd mor briodol i wyl ein nawddsant, sef gwladgarwch a delfrydiaeth ffydd. Parhawyd gyda’r themâu hyn. Ar yr un llaw cafwyd Cymru Annwyl (Osborne Roberts) gan Helen, Aros Mae’r Mynyddau Mawr (Meirion Davies) gan Kees a’r ddeuawd Y Ddau Wladgarwr (Joseph Parry a T Lodwick). Ar y llaw arall cafwyd y deuawdau Benedictus (o Er Hwylio’r Haul gan Robat Arwyn) a Moliant i’r Iôr. Daeth yr adloniant i ben gyda datganiad o Dafydd y Garreg Wen fel encôr. Fe swynwyd yr aelodau gan raglen amrywiol ac ystyrlon a gan y modd diymdrech y’i cyflwynwyd hi gan y ddau lais cyfoethog hyn a chyfeiliant Elonwy. Rhoddwyd cymeradwyaeth wresog i’r tri.Yn ddiweddglo i’r tymor trosglwyddodd yr Athro Densil Morgan lywyddiaeth y Cylch i Aneurin Jones, cyn-brifathro Ysgol Gyfun ac un o naw aelod gwreiddiol y Cylch. Aeth y llywydd newydd ymlaen i gynnig diolch ffurfiol i Helen, Kees ac Elonwy gan awgrymu mor fodlon y byddai sefydlwyr eraill y Cylch o weld cynifer oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwn â’r modd yr oedd yr adloniant a gafwyd yn adlewyrchu delfrydau sylfaenol y Cylch. Diolchodd hefyd i swyddogion eraill y Cylch am eu gwaith, sef Tom James (trysorydd); Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol) a Twynog Davies (ysgrifennydd siaradwyr) gan nodi llwyddiant arbennig Twynog i ddenu cyfres o westeion penigamp dros y tymor a fu. Bydd y Cylch yn ymgynnull eto yn yr Hydref ac edrychir ymlaen yn eiddgar at hynny.
Cymanfa Ganu Annibynwyr
RIHYRSAL gyntaf 20 Mawrth yng Nghapel Soar am 5yp.Arweinydd Elonwy Davies, Llanybydder, organyddes Eurwen Davies, Llambed.
Croeso cynnes i bawb.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.