BYDD casgliad cyflawn o weithiau Meic Stevens, un o gyfansoddwyr mwya dylanwadol y Gymru gyfoes, yn yn cael ei gyhoeddi yn Meic Stevens: Caniadau ddydd Iau, 3 Tachwedd.
Mae ei ganeuon wedi bod yn drac sain i’r genedl ers dros 60 o flynyddoedd, ac am tro cynta erioed, mae geiriau ei gerddi a’i ganeuon — yn Gymraeg a Saesneg — yn dod at ei gilydd rhwng dau glawr.
Er mwyn nodi’r garreg filltir hon yng ngyrfa’r perfformiwr (sydd eleni wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed), bydd y llyfr yn cael ei lansio’n ffurfiol ar nos Iau, 3 Tachwedd am 7yh yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Bydd Meic Stevens yn trafod ei waith, a’r dylanwadau arno, gyda’r cyflwynydd Gary Slaymaker mewn sesiwn holi ac ateb, ac wrth gwrs bydd cyfle i glywed perfformiad o rai o ganeuon mwya poblogaidd Meic.
Mae gan lyfr Meic Stevens, a gyhoeddir gan Dalen, wefan gyhoeddi benodol sef www.meicstevenscaniadau.com






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.