Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi cyhoeddi ymgyrch newydd ar gyfer 2024 sef Dyblu’r Defnydd.

Bwriad yr ymgyrch yw agor sianel gyfathrebu gyda’r cyhoedd i gasglu syniadau am gyfleoedd i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn gymunedol.

Lansiwyd yr ymgyrch yn Nigwyddiad Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru ddoe ac fe fydd yn rhedeg ar-lein yn gwahodd y cyhoedd i leisio eu syniadau am sut i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.

Mae ‘Dyblu’r Defnydd’ yn dod o dan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn canolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg sy’n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd.

Mae Mentrau Iaith Cymru yn fudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 o Fentrau Iaith ar draws Cymru.

Bydd MIC yn derbyn y syniadau ac yn ymrwymo i ystyried bob un – cyn eu gweithredu, lle bo’n bosibl, drwy Fenter iaith berthnasol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, mewn partneriaeth â chyrff eraill neu gyda’r gymuned dan sylw.

Efallai na fydd pob syniad yn ymarferol bosib, ond fe fydd MIC yn ymateb i bob syniad ddaw i mewn.

Mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau trwy wefan MIC.

Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn cael y cyfle i gyflwyno syniadau fel unigolion neu fel grŵp.

Meddai Myfanwy Jones, cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru: “Mae’n wych gweld yr ymgyrch yma yn cael ei lansio heddiw.

“Mae’n hollbwysig bod digon o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ar lawr gwlad ac yn eu cymunedau ac rydyn ni eisiau clywed gan bobl am eu syniadau nhw.

“Yn aml rydyn ni’n clywed ‘beth sydd angen fan hyn yw…’ – a dyma gyfle bobl i nodi’r syniadau yna yn ffurfiol.

“Rwy’n siŵr fod na syniadau gwych allan yna am sut y gallwn ni gynyddu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ac ryn ni am bwysleisio nad oes syniad yn rhy fach na’n rhy fawr i’w ystyried!”

Mae modd cyflwyno syniadau trwy lenwi’r ffurflen arlein yma.