Merched y Wawr

CERIS Worthington oedd siaradwraig wadd cangen Merched y Wawr, Llanafan, ar nos Lun, 14 Mawrth, merch a oedd yn gyfarwydd i bawb ohonom gan iddi gael ei magu yn y pentref a bu’n ddisgybl yn Ysgol Llanafan cyn mynd ymlaen i fynychu Ysgol Penglais.Diolchodd Ceris am y gwahoddiad i sôn wrthym am ei gwaith fel osteopath. Datblygodd ei diddordeb mewn galwedigaeth o’r fath pan oedd yn dal yn Ysgol Penglais, a bu ar brofiad gwaith gyda’r osteopath John Wilden yn Llanidloes. Treuliodd bedair blynedd yng ngholeg Oxford Brookes ac ar ôl graddio gyda Dosbarth Cyntaf mae hi wedi bod yn gweithio o fewn practis John Wilden yn Llanidloes a phractis Owain Smith yn Heol y Gogledd Aberystwyth. Yn ogystal, mae hi’n cynnal ei chlinig ei hun yng Nghanolfan Ystwyth ym Mharc-y-llyn, Llanbadarn Fawr.Mae osteopathi a’i effeithiolrwydd yn dechrau cael cydnabyddiaeth gan y Gwasanaeth Iechyd erbyn hyn. Un o’r egwyddorion sylfaenol yw bod gwahanol rannau’r corff – y cyhyrau, esgyrn, - yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau lles y corff. Mae’r egwyddor fod y corff yn iachau ei hun yn cael ei defnyddio i drin poen yn y gwddf, y cefn, y cymalau ac yn y cyhyrau. Mae’n bwysig wrth drin y claf i dreulio amser ar y cychwyn yn canfod hanes y poen cyn gwneud diagnosis a mynd ymlaen i bennu’r driniaeth. Yn ogystal â massage, mae angen i’r claf ddysgu sut i helpu’i hun. Mae diet ac ymarfer corff y gellir ei wneud yn y cartref yn bwysig wrth ymwneud ag unrhyw driniaeth ar gyfer osteoporosis. Mae nifer o bethau sy’n gallu fod yn gyfrifol am y cyflwr - mae’n gallu datblygu gydag oed, neu gall fod yn rhywbeth genetig, yn ganlyniad i ddefnydd hirdymor o steroids, oherwydd indecs màs isel y corff, anaf, clefyd y siwgr teip 1 neu, yn achos ni’r gwragedd, ar ddiwedd y menopause. Mae yna nifer o bethau y gellir ei wneud i geisio osgoi osteoporosis - rhoi’r gorau i smygu, torri i lawr ar faint o alcohol a yfir, sicrhau diet sy’n gytbwys, cael digon o galsiwm a fitamin D, ac ymarfer y corff trwy fynd am dro neu hyd yn oed wrth lanhau’r ty. Holwyd nifer o gwestiynau perthnasol gan sawl un o’r aelodau ac roedd Ceris yn fwy na pharod i gynnig cyfarwyddid. Diolchodd Beryl Young i Ceris am ei sgwrs a gynigodd wersi pwysig i ni os ydym am ofalu am les ein cyrff a sicrhau ein hiechyd hirdymor.