Capel Brondeifi
DDYDD Sul, 15 Mai, daeth tyrfa dda ynghyd i lanhau’r llwybrau a thacluso o amgylch y capel a’r festri. I ddilyn, cafwyd paned a brech-danau wedi eu paratoi gan Marga-ret Jones, Glanhelen. Enghraifft dda o Sul a chrefydd yn ei ddillad gwaith.Ddydd Sul, 22 Mai, Clive Evans, un o aelodau’r capel fu’n gyfrifol am y gwasanaeth gyda Rhian Jones Williams a’r Dr Sian Lloyd yn cynorthwyo. Mae Clive yn byw a gweithio yn Norwich ers sawl blwyddyn, ym maes elusennau. Braf oedd cael ei gwmni unwaith eto.Parch Wyn Thomas oedd yn y pulpud ar 29 Mai. Cafwyd pregeth rymus a hyfryd ei weld ar wellhad. Roedd 1 Mehefin yn ddiwrnod pwysig yn hanes Capel Brondeifi, gan ei fod yn ddiwrnod cyntaf gweinidogaeth y Parch Alun Wyn Dafis yno. Y Sul canlynol, 5 Mehefin, trefnodd y cyn-weinidog, Parch Goronwy Evans, wasanaeth ar y thema ‘Trosglwyddo’r Fantell’. Llywyddwyd gan Meinir Evans, Wernllwyn. Estynnodd groeso i bawb ac yn arbennig i’r gweinidog newydd. Cafwyd gweddi agoriadol gan Goronwy Evans, emyn cyntaf gan Helen Thomas, Mary Jones fu’n darllen ‘Mae gen i freuddwyd’ gan D Jacob Davies, Hywel Roderick yr ail emyn a chafwyd darlleniad ‘Y Winllan’, o waith Dr Elwyn Davies, gan Heini Thomas, Deffrobani.Canwyd emyn o waith Alun Wyn Dafis, a Ceinwen Jenkins wnaeth ei gyhoeddi. Darllenodd Goronwy lythyr gan Eirene Jones, Church Village, aelod hynaf Brondeifi, sy’n 95 oed. Bu’n sôn sut y daeth hi, Austin, ei phriod, a Gareth, ei mab, yn aelodau ym Mrondeifi ar ddechrau gweinidogaeth Goronwy, ac anfonodd ddymuniadau gorau at Alun Wyn. Hefyd, darllenodd lythyr ar ran Ioan Wyn a’r teulu, a throsglwyd-dwyd dymuniadau gorau Rhidian a theulu’r Mans i Alun Wyn. Yn dilyn, gwnaeth Goronwy drosglwyddo mantell ei wei-nidogaeth drwy gyflwyno’r llyfr ysgrifennodd ar hanes Brondeifi i Alun Wyn.Ar ran Beti, ei briod ac yntau cyflwynodd lun gan yr artist, Aerwen Griffiths, wedi ei fframio gan ei phriod, Dan Griffiths, gyda’r geiriau gan Mary Oliver:Ar fin y dref, urddasol yw,Yn deml hardd i foli Duw.Brondeifi hardd, ein capel ni,Ein hangor sicr ydwyt ti.Dymunodd Goronwy’n dda i Alun Wyn a chyflwynodd siec am £2,000 i’r capel ar ran Pwyllgor Siop y Smotyn Du. Cafwyd darlleniad gan Enyd Heneghan o ‘Bydd Dyner’ o waith D Elwyn Davies. Wedi’r cyflwyniadau, cafodd Alun Wyn gyfle i ymateb, a dy-wedodd ei fod yn edrych ymlaen at yr her a diolchodd i Frondeifi am ymddiried ynddo.Gwnaed y cyhoeddiadau gan Aneurin Jones, diolchodd i bawb ac estynodd groeso i Alun Wyn Dafis gan ddymuno’n dda iddo.Meinir Jones, Hendai, gyhoed-dodd yr emyn olaf, ‘Dyddiau llawenydd’ gan D Jacob Davies. Darllenodd Sioned Russell ‘Goleuo’r Fflam’ a chyhoeddwyd y Fendith gan Alun Wyn Dafis. Casglwyd gan blant yr Ysgol Sul, a Margaret Jones, Glanhelen, oedd wrth yr organ.Gwahoddwyd pawb i’r festri am luniaeth a baratowyd gan Delyth Jones, Ffosyffin a Margaret Jones, Glanhelen.Bydd cyfarfod sefydlu’r Parch Alun Wyn Dafis ym Mrondeifi ar ddydd Sul, 9 Hydref.Cymundeb fu ddydd Sul, 19 Me-hefin, gan y Parch Goronwy Evans.Cymanfa’r BedyddwyrCYNHALIWYD Cymanfa Ganu Bedyddwyr cylch Caio a Llambed yng Nghapel Bethel Cwm Pedol ar brynhawn hyfryd o Fai. Croesawyd pawb yn gynnes gan y llywydd Elliw Dafydd, Bethel Silian a chymerwyd at y rhannau arweiniol gan Eirian Morgan a Rhys Davies, Bethel Cwm Pedol. Ein harweinydd gwadd oedd Delyth Morgans Phillips, aelod gweithgar a ffyddlon yn Noddfa sydd yn wyneb cyfarwydd i bawb ohonom. Yr organydd oedd Elfyn Davies, Bethel Cwm Pedol. Dilynwyd yr un drefn eleni gyda’r plant a’r oedolion yn canu bob yn ail. Mwynhawyd gwledd yng nghwmni’r plant a phob un yn ymateb yn rhagorol i ofynion yr arweinydd. Roedd brwdfrydedd ambell un yn peri gwên. Pleser hefyd oedd gwrando arnynt yn darllen yr emynau yn raenus er bod nifer ohonynt yn ifanc iawn. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwrando ar Elliw yn cyflwyno neges yn seiliedig ar stori Noa ac ar ei chais yn cael llawer o hwyl yn creu synau’r anifeiliaid gwahanol aeth i mewn i’r arch.Diolch i Elliw am ei chyfraniad arbennig a ddalodd sylw y plant i gyd.Cafwyd canu gorfoledus gan yr oedolion a brâf oedd gweld nifer o aelodau Côr Mebion Cwmann yn bresennol gan chwyddo’r mawl. Gan fod ein harweinydd yn arbenigwraig ym maes yr emynau cafwyd ganddi ffeithiau diddorol am bob un a bu’n ein harwain mewn ffordd hollol gartrefol a di-ffws.Talodd Elliw deyrnged uchel i Delyth am ei gwaith clodwiw, i Elfyn am ei wasanaeth gwerthfawr yntau, i swyddogion ac aelodau Bethel Cwm Pedol am eu croeso a’u paratoadau trylwyr, i Emlyn am arwain rihyrsal yr oedolion, i Janet am baratoi plant Ysgol Sul Noddfa, i bawb oedd wedi cymryd rhan ac i’r cantorion o’r eglwysi eraill am ddod i’n cynorthwyo. Diolchodd Delyth i bawb am eu canu bendigedig. Daeth prynhawn pleserus i ben gyda phawb yn cyfranogi o’r lluniaeth ardderchog yn y festri, wedi ei baratoi gan aelodau Bethel Cwm Pedol, tra’n mwynhau’r gymdeithas o amgylch y byrddau. Traddodwyd y fendith gan y Parch Jill Tomos.





-a-joyful-and-inclusive-c.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.