Treialon Cwn Defaid

DAETH nifer dda o gystadleuwyr ynghyd ar ddydd Iau, 25 Awst i‘r Treialon Cwn Defaid a gynhaliwyd unwaith eto ar fferm Gwyngoed Fach, Llanddewi Brefi.

Buom yn ffodus o ddiwrnod braf, gyda golygfeydd mwyaf godidog o Ddyffryn Teifi. Diolchir yn gynnes iawn i Eurig a Nerys Pugh a’r teulu gyfan, am eu parodrwydd i ymgymryd â’r holl waith sydd ynglwm â darparu lleoliad ar gyfer treialon o’r fath a hefyd am ddefnydd o’u defaid ar gyfer y cystadleuwyr.

Diolchir hefyd i’r beirniad, sef William Davies, o Brynglas, Ponterwyd gyda’i briod yn ei gynorthwyo. Yn ychwanegol i ddarparu bwyd ar gyfer y beirniad a’r cynorthwywyr, darparwyd hefyd luniaeth ysgafn gan Nerys, Angharad a Catrin ar gyfer y cystadleuwyr a’r gwylwyr.

Mwynhad pur oedd bod yno a gwelwyd cystadlu brwd trwy gydol y dydd.

Dyma restr yr enillwyr: • Cenedlaethol: Cystadleuaeth Agored: 1af, Meirion Jones (Jimmy). • De Cymru: Cystadleuaeth Agored: 1af, I B Jones (Tim). • Cenedlaethol: Cystadleuaeth Nofis: 1af I B Jones (Rio). • De Cymru: Nofis: 1af Sheila Lewis (Jess).

dilyn ar y nos Wener, ar noson braf unwaith eto, cynhaliwyd y “Treial Bach”, cyfyngedig i radiws o 10 milltir ar gyfer cystadleuwyr nofis, eto ar fferm Gwyngoed Fach. Daeth nifer dda ynghyd a bu cystadlu brwd tan iddi nosi. Y beirniad oedd Irwel Evans, Pen-tregwnnws, Tyngraig, Ystrad Meurig.

Braf iawn oedd gweld yr ifanc yn llwyddo a sylweddoli bod yna ddyfodol i dreialon o’r fath. • Nofis Cenedlaethol: 1af Elin Hope, Abermeurig (Mist). • Nofis De Cymru: 1af Daniel Rees, Bwlchyddwyallt (Meg).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]