Merched y Wawr
AR NOS Fawrth, 1 Mawrth, aeth criw o’r aelodau ar bws Dolen i Neuadd Pontgarreg i ddathlu Gwyl ein Nawdd Sant yng nghwmni aelodau cangen Bro Grannogwen. Cawsom noson hwylus â phawb wedi mwynhau y cawl cartref blasus roeddent wedi ei baratoi ar ein cyfer, cyn cael adloni-ant ysgafn.Ar nos Wener, 11 Mawrth, fe adawodd yr aelodau ei cartref arferol, Y Pwerdy, ag unwaith eto mynd ar bws Dolen am ein cinio blynyddol gyda’r gwyr i Westy Cwmrhydneuadd, Pentregât. Croesawodd Nesta ein gwr gwadd am y noson, sef y Parch Eirian Lewis, a fu’n rhoi yr hanes sut iddo ddechrau fynd i Patagonia ag erbyn hyn mae wedi ymweld â’r wlad naw gwaith ac yn trefnu teithiau yno. Diolchwyd iddo gan ein is lywydd Valerie Davies.Ar nos Iau, 14 Ebrill, croesawodd Nesta yr aelodau yn ôl yw cartref arferol, Y Pwerdy. Ein gwr gwadd am y noson oedd Dan Davies, sydd yn arbenigwr olion bysedd gyda’r heddlu yng Nghaerfyrddin. Bu’n siarad am ei waith ag fel y maent yn mynd ati i godi olion bysedd troseddwyr, yna y gwaith manwl o dynnu rhestr fer o filoedd o olion sydd ganddynt ar feil yn barod ac am beth yr ydynt yn edrych amdano. Cafwyd noson diddorol gan bawb. Diolchwyd iddo gan Carys Evans. Bydd y cyfarfod nesaf yn Y Pwerdy ar nos Iau, 12 Mai.
Merched Glannau Teifi
TEITHIODD y merched i ddathlu Gwyl Dewi yn Tafarn Y Talardd, Llanllwni, nôs Lun, 14 Mawrth.Wedi mwynhau y cawl fe gyflwynodd Mabel ein gwr gwadd, sef y tafarnwr ei hun, John Jones. Bu John yn olrhain ei fywyd o’r cymoedd i Sir Fôn, nôl i lawr at y Cardi a nawr wedi ymgartrefi dros y bont yn Sir Gaerfyrddin. Canwyd John yn fab i löwr ond ni fu lawr y pwll, ond mynd yn athro cyn newid ei yrfa lawer gwaith ar ei daith i fod yn tafarnwr am yr ail dro. Diolchwyd i John gan Mary Evans.Yn mis Ebrill croesawodd Mabel y merched yn ôl i Westy’r Porth. Y gwr gwadd oedd Ken Lewis neu fel mae rhai yn ei adnabod PC64. Mae wedi ymddeol o’r heddlu ers llawer blwyddyn a bu’n rhoi ei hanes ers yn fachgen yn Ysgol ramadeg Llandysul a’r hanes sut iddo ymuno a’r heddlu ag fel ‘roedd y gwaith nôl yn y 70au a’r 80au. Diolchwyd iddo gan Hazel Evans.
Church services
SUNDAY, 15 May: Llandysul - 8am Communion, 11am Communion; Tregroes: 2pm Hwyrol Weddi.Every Wednesday - Llandysul 10.30am Communion.Every Thursday - 7.30pm Home group at Vicarage.
Jenard
A WONDERFUL evening was held at the Porth on Friday, 29 April, when Jenard launched an album to a room full of supporters. The evening was opened by Eifion, E W Records, Llangeitho and the proceeds of the evening went to Cancer Research, Llandysul branch.
Carnival
A MEETING was held on Wednesday, 27 April, at the Half Moon.The next event will be It’s a Knockout on Paddlers lake on Saturday, 4 June at 1pm.It was noted that the disco was very successful and well-support-ed.The next meeting will be on Wednesday, 25 May, at the Half Moon at 7.30pm.
Cytun
BYDD y taith gerdded Cytun ar nos Fercher, 18 Mai, i ddechrau am 6yh.Hefyd bydd Cytun yn cyflwyno siec i Ward y Plant, Ysbyty Glangwili.
Tractor run
A SUCCESSFUL road run was held on Sunday, 1 May, at the Wilkes Head.It was lovely to see so many trac-tor supporting the event to raise money for the Gwenllian Ward at Glangwili Hospital.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.