Bingo’r Porth

ON Thursday, 26 May, a successful bingo was held at the Porth Hotel in aid of the Welsh Fly Fishing team, and it was nice to see so many supporting the event. There were great prizes donated by local businesses and numerous raffle winners.

Church services

SUNDAY, 12 June – 8am Llandysul Communion, 9.30am Llangynllo, 11am Boreol Wedd, 2pm Pontsian Cymun.Wednesday 10.30am Llandysul Communion.Newcastle Emlyn - 19 June, Gwyl Gorawl 10.30am, 6pm Community Singing.Tregroes - 1 July, Strawberries and Cream at Tresi Aur 7pm to be opened by Megan Thomas, Aberaeron.Bangor Teifi – 12 June, Commu-nity Singing 7.30pm.

Tregroes

CAFWYD penwythnos anhygoel ar wyl y banc pan gafwyd cyflwyniad a sioe i gofio am eni ‘Christmas Evans’ 250 o flynyddoedd yn ôl.Roedd Eleri Davies wedi ysgrifennu sioe i gofio am ei fywyd ers yr amser y cafodd ei eni yn Nhregroes ar dir Dyffryn Llynod. Roedd yn fab i grydd. Bu ei dad farw, ac yntau yn gorfod gadael ei fam yn naw oed a mynd at ei wncwl creulon i weithio ar y fferm, yn methu darllen nac ysgrifennu. Ond, wrth lwc, cafodd gyfle i fynd yn wâs yn ardal Pontsian a mynd i’r ysgol yng Nghastell Hywel. Yn dilyn ei addysg aeth yn bregethwr enwog, gan grwydro Cymru â thyrfa fawr yn dod i wrando arno.Cafwyd berfformiad gwych â phawb yn mwynhau yng nghwmni’r cast a hefyd Côr Cwmann. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi ac a fu’n gweithio’n galed yn paratoi ac ymarfer.Ar y nos Sadwrn, dadorchuddiwyd y plac ar ei newydd-wedd gan David a John Lewis ac yna i orffen y ddwy noson cafwyd lluniaeth yn yr ysgol a chyfle i sgwrsio. Diolch yn fawr i bawb am gefnogi ac am weithio mor galed – cafwyd penwythnos i’w chofio am amser hir.