Cymdeithas

CAFWYD dau gyfarfod ardderchog i ddiweddu rhaglen 2015 y Gymdeithas Unedig. Er gwaetha’r tywydd garw ddechrau Rhagfyr roedd cynulliad lluosog yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf a chroesawyd pawb gan Gwilym Evans, Hendre, llywydd y noson.Yna cyflwynodd y gwr gwadd, sef Meic Atkins o Lanaelhaearn. Trwsiwr clociau yw Mr Atkins wrth ei alwedigaeth a dywedodd ei fod yn trwsio bob mathau o glociau o rai mawr i rai bach. Bydd y gorfod mynd i gyrchu clociau mawr i’w trwsio yn ei weithdy cyn mynd â hwy yn eu holau wedyn, meddai.Roedd ganddo luniau diddorol o hen, hen glociau mawr — clociau taid — a rhyfeddodd pawb o weld y gwaith pren cywrain a’r amrywiol wynebau hyfryd arnynt.Roedd yn amlwg gyda’r gymeradwyaeth ar y diwedd i bawb fwynhau y sgwrs yn fawr iawn a diolchwyd ar eu rhan gan y llywydd. Diolchodd hefyd i ferched Cilan am baratoi’r te ar ddiwedd y cyfarfod.Cafwyd dipyn o naws y Nadolig yng nghwmni yr Hybarch Andrew Jones yn yr ail gyfarfod ar nos Lun, 2 Rhagfyr, ac unwaith eto roedd cynulliad da’n bresennol. Yn ddiddorol, iawn disgrifiodd hanes Y Canhwyllau sef y pedair cannwyll a oleuir, y naill ar ôl y llall ar bedwar Sul yr Adfent. Yna cafwyd cyfle i ganu carolau dan ei arweiniad gyda Gwenda yn cyfeilio. Diweddwyd yn ôl yr arfer gyda phaned dan ofal chwiorydd Cilan.Bydd rhaglen 2016 yn dechrau nos Lun, 11 Ionawr, pryd y disgwylir cwmni Wyn Williams, Talafon, Abersoch.

Oedfa

PREGETHIR yng Nghapel Bwlch, ddydd Sul, 10 Ionawr, am 5yh gan y Parch Edmund Owen, Porthmadog.

St Engan

CYMUN bendigaid am 9yb.