Merched y Wawr

AR 8 Chwefror, daeth Dyfan Jones, Pantlleinau atom i ddangos sleidiau o’i daith i Illinois yn yr Unol Daleithiau. Roedd enw Angela, o Dregaron, ar y rhaglen, hefyd, i rannu’r gwaith, ond methodd hi â dod, ar y funud olaf. Ta waeth, roedd Dyfan yn berffaith abl i wneud y cyflwyno ar ei ben ei hun. Roedd ganddo nifer fawr o sleidiau, ac yn amlwg yn feistr ar y camera. Dangosodd inni’r ffermydd lle y bu’n aros, a’r anifeiliaid a’r peiriannau a ddefnyddid yno. Roedd hi’n syndod i bawb mor fawr oedd pob peth, maint y ffermydd, a’r siediau, a’r peiriannau, a’r nifer anhygoel o foch neu wartheg ar un fferm. Anhygoel, hefyd, oedd cof Dyfan, wrth iddo’n harwain trwy’r sleidiau, gan nodi maint a nifer ym mhob achos, heb nodyn o unrhyw fath o’i flaen. Roedd yn cydnabod ei ddyled i’r Mudiad Ffermwyr Ifanc am roi’r cyfle hwn iddo i weld rhyfeddodau gwlad arall. Trefnydd y noson oedd Glenys Morris, a hi wnaeth y diolchiadau. Rhoddwyd y raffl gan Valerian Leblond a’r enillydd lwcus oedd Delyth Lewis.

Yn ein cyfarfod nesaf ym mis Mawrth cawn gwmni’r Gyfarwyddwraig Genedlaethol, Tegwen Morris, ynghyd â chyd-aelodau o ganghennau Llanon a Llanilar. Bydd y trefniadau yn nwylo Carol Tandy a Beryl Jones.