Mae cefnogaeth gan gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol wedi galluogi cwmni gemau blaenllaw o Gymru Wales Interactive i greu Maid of Sker 2, gêm fideo CGI i ddilyn y gem wreiddiol arobryn.

Bydd y cyllid yn galluogi Wales Interactive i ddatblygu’r teitl nesaf hwn yn gyflym ac ar lefel uchel, gan ganiatáu i 10 o ddatblygwyr llawrydd weithio ar deitl mawr, y potensial am 8-9 o swyddi parhaol eraill yn ystod cyfnod y prosiect, a chreu cyfleoedd i 12 o hyfforddeion eraill.

Cyhoeddwyd Maid of Sker gyntaf ym mis Gorffennaf 2020 ac, ers ei lansio, mae wedi gweld tua 1.2 miliwn o lawrlwythiadau hyd yma ledled y byd. Gêm genre arswyd gothig yw Maid of Sker a ysbrydolwyd gan stori Elisabeth Williams o Gymru, menyw ifanc a garcharwyd gan ei thad i’w hatal rhag priodi’r dyn yr oedd yn ei garu. Dywedir iddi farw o dor-calon ac anfarwolwyd y chwedl drasig hon yn y gân werin Gymraeg, Y Ferch o’r Sger.

Dywedodd Dr David Banner MBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive: “Mae’n wych gweld cefnogaeth barhaus Cymru Greadigol i ddiwydiant Gemau Cymru ac rydym wrth ein boddau mai ein prosiect Maid of Sker 2 fydd y gêm fideo gyntaf i dderbyn cyllid cynhyrchu.

“Mae Wales Interactive wedi dod yn un o arweinwyr byd-eang ein maes, gan werthu miliynau o gemau fideo a ffilmiau rhyngweithiol ledled y byd, a bydd y gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn chwarae rhan bwysig yn ein llwyddiant a’n twf yn y dyfodol.”

Ers 2020 mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi £18.1 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig, sydd wedi cefnogi 37 o brosiectau ar draws ffilm, teledu, gemau ac animeiddio, gan gynhyrchu dros £208.7 miliwn i economi Cymru a dangos Adenillion ar Fuddsoddi o fwy na 11:1 i’r economi.