Ar ail Sadwrn mis Chwefror braf oedd croesawu wynebau newydd ynghyd a’r cefnogwyr selog i Ganolfan Abergynolwyn i’r Eisteddfod Flynyddol.

Y ddau feirniad fu wrthi’n cloriannu y cystadlaethau llwyfan oedd Delyth Vaughan Rowlands, Llanelltyd (Cerdd) ac Iwan Morgan, Llan Ffestiniog (Llefaru a Cherdd Dant). Roedd yn bleser cael eu cwmni a diolch iddynt am eu gwaith a’u hannogaeth gydol y ddau gyfarfod.

Tudur Jones, Tywyn yn ol yr arfer fu’n cyfeilio i’r unawdwyr gydol y dydd a diolchwn am ei wasanaeth ac am gael cyfeilydd mor ddawnus ym Mro Dysynni.

Diolch i bawb a ddaeth i gystadlu ymhell ac agos, ac roedd presennoldeb disgyblion Ysgol Craig y Deryn yn amlwg yn eu siwmperi coch yn ystod y prynhawn. Roedd rhai yn mentro ar y llwyfan am y tro cyntaf, neu’n rhoi cynnig ar gystadleuaeth newydd gan gadarnhau pwysigrwydd yr eisteddfodau bach i ennill profiad a hyder ar lwyfan.

Ein beirniaid gwaith cartref eleni oedd Sian Jarman (llenyddiaeth) a Delyth Thompson (celf) - roeddent wedi eu plesio yn fawr ac yn llongyfarch safon y cystadlu.

Cafwyd araith ddifyr yn dwyn atgofion o’i phrofiadau ar lwyfan yr Eistedddfod gan ein Llywydd Delyth Jenkins, neu Delyth Penymeini fel roedd nifer o’r gynulleidfa yn ei hadnabod.

Iwan Morgan fu’n beirniadu y gweithiau Rhyddiaith a Barddoniaeth a chanmolodd safon y ceisidau.

Diolch i’r triawd a fu’n arwain gydol y dydd - Cyng Beth Lawton, Edward Tudor Jones a Dafydd Jones.

Gwerthfawrogir cefnogaeth pawb er llwyddiant a pharhad yr Eisteddfod, a dymuna’r pwyllgor gydnabod yn ddiolchgar yr holl noddwyr a charedigion.

Eisteddfod Abergynolwyn 1 2
Gweno Evans, cyntaf, Unawd a Llefaru Meithrin a Derbyn, a Wil Ifan, cyntaf, Unawd ac Llefaru Bl 1 ac 2 a Cerdd Dant Bl 6 ac iau (Erfyl Lloyd Davies)

Canlyniadau’r dydd

  • Unawd Meithrin a Derbyn: 1af Gwenno Evans, Rhydymain.
  • Llefaru Meithrin a Derbyn: 1af Gwenno Evans, Rhydymain.
  • Unawd Bl. 1 a 2: 1af Wil Ifan, Trawsfynydd 2il Efa Mahala Edwards, Corwen 3ydd Gwilym Pennant Jones, Llanbrynmair.
  • Llefaru Bl. 1 a 2: 1af Wil Ifan, Trawsfynydd =2il Efa Mahala Edwards, Corwen a Gwilym Pennant Jones, Llanbrynmair.
  • Llefaru Bl. 3 a 4: 1af Owain Jones, Ysgol Craig y Deryn 2il Sarah Pugh, Ysgol Craig y Deryn
  • Unawd Bl. 5 a 6: Isla Jones, Ysgol Craig y Deryn 2il Hannah Mumford, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Lily Glenc, Ysgol Craig y Deryn.
  • Llefaru Bl. 5 a 5: Hannah Mumford, Ysgol Craig y Deryn 2il Lily Glenc, Ysgol Craig y Deryn = 3ydd Sara Williams Ysgol Craig y Deryn a Jessica Gibbins, Ysgol Craig y Deryn.
  • Unawd Cerdd Dant Bl. 6 ac iau: Wil Ifan, Trawsfynydd.
  • Unawd Piano oed Cynradd: 1af Poppy Collister, Ysgol Craig y Deryn.
  • Deuawd Bl. 9 ac iau: 1af Hannah Mumford a Lily Glenc, Ysgol Craig y Deryn.
  • Unawd Bl. 7 - 9: 1af Malena Aled, Parc Y Bala = 2il Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair a Llio Iorwerth, Trawsfynydd.
  • Llefaru Bl. 7-9: 1af Malena Aled, Parc Y Bala 2il Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair.
  • Unawd Cerdd Dant Bl. 7 - 9: 1af Llio Iorwerth, Trawsfynydd.
  • Unawd Alaw Werin Bl. 7 - 9: 1af Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair
  • Unawd Piano oed Uwchradd: =1af Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair a Malena Aled, Parc Y Bala =2il Aneira Fflur Jones a Gwilym Egryn Jones, Llanegryn.
  • Unawd Offerynnol oed Uwchradd: =1af Aneira Fflur Jones, Llanegryn a Malena Aled, Parc y Bala 2il Llio Iorwerth, Trawsfynydd.

Gwaith Celf

  • Meithrin: 1af Mabon Glyndwr Jones, Llanegryn 2il Dorothy Tucker, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Tove McCarter-Stockton, Ysgol Craig y Deryn.
  • Derbyn: 1af Silyn Breese, Pennal 2il Freya Hooper, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Maverick Betts, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 1 a 2: 1af Cynan Richard Jones, Llanegryn 2il Barnaby Gardner, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Robyne Coles, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 3 a 4: 1af Isabella Turnis Heap, Ysgol Craig y Deryn 2il Beth Jones, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Bleddyn Jones, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 5 a 6: 1af Jac Pugh, Ysgol Craig y Deryn.
Eisteddfod Abergynolwyn 4 5
Isla Jones, cyntaf, Unawd Bl 5 a 6, a Hana Seren Munford, cyntaf, Llefaru Bl 5 a 6 (Erfyl Lloyd Davies)

Llenyddiaeth

  • Meithrin: 1af Olivia Perks, Ysgol Craig y Deryn 2il Tove McCarter-Stockton, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Thomas Jewell, Ysgol Craig y Deryn.
  • Derbyn: 1af Silyn Breese, Pennal 2il Alice Lewis, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Bella Fox, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 1 a 2: 1af Rosie Pugh, Ysgol Craig y Deryn 2il Owen Moss, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Robyn Hughes, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 3 a 4: 1af Isabella Turnis Heap, Ysgol Craig y Deryn 2il Rosie Watterson, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Gwilym Evans, Ysgol Craig y Deryn.
  • Bl. 5 a 6: 1af Catrin Pierce, Ysgol Craig y Deryn 2il Poppy Collister, Ysgol Craig y Deryn 3ydd Nia Hobbs, Ysgol Craig y Deryn.

Canlyniadau’r Hwyr

  • Band Pres: 1af Elaine a Jane Seindorf Abergynolwyn.
  • Unawd Offeryn: 1af Lea Mererid, Pwllheli.
  • Llefaru dan 18oed: Lea Mererid, Pwllheli.
  • Rhyddiaith dan 18 oed: 1af Lleucu Hughes, Llanuwchllyn 2il Llio Gethin, Ysgol Botwnnog.
  • Rhyddiaith 18-21 oed: 1af Glain Eden, Trawsfynydd.
  • Englyn: 1af Gwilym Bryniog Davies, Melin y Coed.
  • Telyneg: 1af John Meurig Davies, Aberhonddu.
  • Llefaru dan 25 oed: Huw Jarman, Talyllyn.
  • Canu Emyn dros 55 oed: 1af Gwyn Jones, Aberystwyth 2il Marianne Powell, Llandre 3ydd Aled Jones, Comins Coch.
  • Unawd Cerdd Dant Agored: 1af Huw Jarman, Talyllyn.
  • Limrig: 1af John Meurig Edwards, Aberhonddu.
  • Brawddeg: 1af John Meurig Edwards, Aberhonddu.
  • ‘Sgen ti Dalent?: 1af Lea Mererid, Pwllheli 2il Jane Rushton, Abergynolwyn 3ydd Rhys Jones, Dinmael.
  • Can Werin Agored: 1af Marianne Powell, Llandre 2il Jane Rushton, Abergynolwyn.
  • Llefaru i Ddysgwyr: 1af Jane Rushton, Abergynolwyn.
  • Unawd Gymraeg: 1af Gwyn Jones, Aberystwyth 2il Marianne Powell, Llandre 3ydd Aled Jones, Comins Coch
  • Prif Lefaru: 1af Maria Evans, Caerfyrddin 2il Rhys Jones, Dinmael.
  • Her Unawd: 1af Marianne Powell, Llandre.