BRAF oedd gallu cynnal carnifal yn Llanarth unwaith eto a thywynodd yr haul yn braf ar barc chwarae’r pentef ar y dydd.

Y llywyddion oedd Sue ac Elfed Howells a nhw hefyd oedd yn beirniadu’r dosbarthiadau amrywiol.­

Y swyddogion smart oedd Macsen Jones (Brenin), Brooke Kendrick (Brenhines) , Joey Evans (Tywysog) , Amarah Gould (Tywysoges), Malen Robertson (Gwas Bach) a Jasmine Evans (morwyn flodau).

Cafwyd dosbarthiadau cryf yn cystadlu a phawb wedi gwneud ymdrech arbennig.

Dyma’r canlyniadau: Cyn meithryn: 1, Paddington Bear, Llywelyn Bevans; 2, Hansel a Gretel, Harri a Siwan Chandler; 3, Y Gadair, Siencyn Jones. Meithryn a Derbyn: 1, Sir William Knight, William Davies; 2, Top Gun, Mostyn Jones; cydradd trydydd, Jac y Jwc, Lena Jones, a Baywatch, Tomi Davies. Bl 1 a 2: 1, Old Macdonald, Toby Chandler; 2, Thomas the Tank, Joey Evans; cydradd trydydd, Sali Mali, Gwennan Jones, a Dorothy Wizard of Oz, Willa Walters a’r Frenhines, Elsi Jones. Bl 3 a 4, 1, Cruella de Vil, Jessica Evans. Parau/Grŵp: 1, Cruella de Vil a’r Dalmatians, Jessica Evans, Elis ac Osian Gruffudd; cydradd 2, Taith y Jwbili, Macsen a Elsi Jones; Jac y Jwc a Sali Mali, Gwennan a Lena Jones; cydradd 3, Thomas the Tank and the Controller, Joey Evans and Rhodri Lewis, a Hansel a Gretel, Harri a Siwan Chandler.

Cyflwynwyd rhoddion gan Alan Thomas ar ran pwyllgor presennol neuadd y pentref i Eleri Jones a Mary Jones am eu gwaith di-flino ar bwyllgor y neuadd ers dros 20 mlynedd.

Codwyd £876 tuag at goffrau’r neuadd.

Diolch i bawb ddaeth i gefnogi ac i’r trefnwyr am eu gwaith.