CYNHALIWYD Carnifal Pontrhydfendigaid ar ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf.

Dechreuodd yr orymdaith ar y Glas gan fynd drwy’r pentref ymlaen i Bafiliwn y Bont ar gyfer y cystadlu a choroni’r frenhines.

Y llywyddion a’r beirniaid oedd Aled ac Alwena Evans, Cwmann (Aled Crud-yr-awel gynt), ac roedd yn braf gweld eu mab Sion, a mam Aled, Joan Evans yn gwmni iddynt.

Cafwyd gair pwrpasol gan Aled cyn i Alwena goroni’r frenhines am eleni, Megan Herberts.

Gosgordd y frenhines oedd Mari Herberts, Gwenno Evans, Cain Owen a Rhys Jenkins, ac roedd pob un yn edrych yn brydferth iawn.

Cyflwynwyd anrhegion i bob un gan bwyllgor y Carnifal, a chyflwynwyd blodau i Alwena ac anrheg i Aled gan frenhines 2017, Catrin Davies.

Cyflwynwyd y gweithgareddau gan Selwyn Jones. Ar ôl y carnifal, mwynhawyd te yn y pafiliwn, ac yna chwaraeon amrywiol.

Yn yr hwyr, diddanwyd pawb gan y poblogaidd ‘Welsh Whisperer’ i gloi diwrnod o weithgareddau.

Dymuna pwyllgor y Carnifal ddiolch i bawb am eu cefnogaeth mewn unrhyw fodd.