CAFWYD cystadlu o safon uchel iawn yn Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa eleni.
Bu cystadlu brwd am oriau maith o’r llwyfan, gyda graen ymarfer i’w weld ac i glywed gan bob cystadleuydd. Llywydd y dydd oedd Wendy Davies, Ffostrasol. Un sydd â chysylltiadau dwfn â Chapel y Fadfa.
Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn iddi am ei rhodd haelionus tuag at goffrau’r eisteddfod.
Y beirniad cerdd oedd Meinir Jones Parry, Caerfyrddin a’r beirniad llefaru oedd Mair Wyn, Rhydaman. Y beirniad arlunio oedd Robert Blayney, Pontsian a’r cyfeilydd eleni eto oedd Jonathan Morgan o’r Tymbl.
Enillydd y Gadair hardd a’r rhodd ariannol oedd Siw Jones, Felinfach. Dyma’r ail gadair iddi ennill yn Nhalgarreg. Roedd y gadair a’r arian yn rhoddedig gan Deulu Nant y Glyn.
Enillydd Tlws yr Ifanc oedd Beca Roberts, Cwmann. Roedd y tlws ynghyd â’r rhodd ariannol yn rhoddedig gan John ac Aerona Davies, Maesycrugiau.
Yng nghofal y ddwy seremoni oedd y Parch Cen Llwyd. Diolchwyd i bawb am gefnogi’r diwrnod ac am bob rhodd a gweithred gan y Parch Wyn Thomas.
Diolch yn arbennig i’r swyddogion am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn er mwyn cael cynnal y digwyddiad blynyddol hwn gyda graen.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.