CYNHALIWYD Eisteddfod RTJ Pantyfedwen dros benwythnos gŵyl y banc yn Llanbedr Pont Steffan, yn denu cystadleuwyr o bob rhan o Gymru.

Dechreuodd yr eisteddfod ar y nos Wener yng Nghlwb Rygbi Llanbed cyn i’r cystadlu symud i Ysgol Bro Pedr yn y dref.

Roedd cystadlu brwd a pherfformiadau disglair dros ŵyl y banc yn yr ysgol ar ddydd Sadwn, Sul a dydd Llun.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Undebol yr Eisteddfod fore Sul yng Nghapel Soar, Llanbed.

Y gweinidog a chyn-Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, y Parchedig John Gwilym Jones, oedd yng ngofal yr oedfa.

Ynyr Williams, o Gaerdydd, oedd enillydd y Gadair gyda Karina Wyn Dafis, o Lanbrynmair yn ennill y Goron.

Noddwyr yr Eisteddfod oedd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Meinir Jones Parry, un o’r beirniaid: “Wel am steddfod ffantastig! Wedi ca'l sawl neges yn canmol. Nes i wir joio gyda chi, steddfod hynod lwyddiannus.”

Lea Mererid o Bwllheli, enillydd Unawd Piano 12 – 19 oed ac hefyd Unawd ar unrhyw offeryn cerdd heblaw’r piano 12 – 19 oed.
Karina Wyn Dafis o Lanbrynmair, enillydd y Goron o waith Rhiannon, Tregaron ac Lea Mererid o Bwllheli, enillydd Unawd Piano 12 – 19 oed ac hefyd Unawd ar unrhyw offeryn cerdd heblaw’r piano 12 – 19 oed. (Nia Davies)

Elin Hopkins, Llanbedr Pont Steffan, enillydd Unawd ar unrhyw Offeryn Cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed yn yr Adran Gyfyngedig ac hefyd yn yr Adran Agored.
Enillydd Unawd Merched 16 – 21 oed oedd Swyn Tomos, Pencarreg ac Elin Hopkins, Llanbedr Pont Steffan, enillydd Unawd ar unrhyw Offeryn Cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed yn yr Adran Gyfyngedig ac hefyd yn yr Adran Agored. (Nia Davies)
Elin Williams, Tregaron enillydd y Prif Gystadleuaeth Lefaru dan 21.
Ela Mablen Griffiths-Jones o Gwrtnewydd, enillydd Unawd Merched 12 – 16; Unawd Cerdd Dant 12- 19 a Darn Dramatig neu Fonolog ac Elin Williams, Tregaron enillydd y Prif Gystadleuaeth Lefaru dan 21. (Nia Davies)
Scarlett Jones o Rhuthin oedd enillydd y gystadleuaeth i gantorion dan 30 oed. Enillodd hi £2,000.
Lowri Steffan, Llanilar oedd enillydd Y Prif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed ac Scarlett Jones o Rhuthin oedd enillydd y gystadleuaeth i gantorion dan 30 oed. Enillodd hi £2,000. (Nia Davies)
Daniel Rees o Waungilwen, enillydd y Canu Emyn dros 50.
Gwendoline Evans, Synod Inn, enillydd Darllen o’r Ysgrythur ac Daniel Rees o Waungilwen, enillydd y Canu Emyn dros 50. (Nia Davies)
Alwena a Gwennan Owen, Llanllwni, enillwyr y Ddeuawd Emyn Agored a Deuawd dan 19 oed.
Alwena a Gwennan Owen, Llanllwni, enillwyr y Ddeuawd Emyn Agored a Deuawd dan 19 oed. (Nia Davies)
Celt John, Aberystwyth oedd enillydd y Gadair dan 25 oed. Celt yw Swyddog Cymunedol yr Urdd yng Ngheredigion a Merch o Dregaron a disgybl ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Bro Pedr yw Elin Williams, enillydd y Tlws Ieuenctid.
Celt John, Aberystwyth oedd enillydd y Gadair dan 25 oed. Celt yw Swyddog Cymunedol yr Urdd yng Ngheredigion a Merch o Dregaron a disgybl ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Bro Pedr yw Elin Williams, enillydd y Tlws Ieuenctid. (Nia Davies)
Aron Lewis a Wil Ifan, dau ffrind o Ysgol Bro Pedr, enillwyr y Cyflwyniad Digri Agored.
Aron Lewis a Wil Ifan, dau ffrind o Ysgol Bro Pedr, enillwyr y Cyflwyniad Digri Agored. (Nia Davies)
Ela Mablen Griffiths-Jones o Gwrtnewydd, enillydd Unawd Merched 12 – 16; Unawd Cerdd Dant 12- 19 a Darn Dramatig neu Fonolog.
Ela Mablen Griffiths-Jones o Gwrtnewydd, enillydd Unawd Merched 12 – 16; Unawd Cerdd Dant 12- 19 a Darn Dramatig neu Fonolog. (Nia Davies)
Gruffydd Rhys Davies, Llandyfriog, Castell Newydd Emlyn oedd enillydd y Rose Bowl i’r cystadleuydd mwyaf addawol yn yr Adran Gerdd.
Gruffydd Rhys Davies, Llandyfriog, Castell Newydd Emlyn oedd enillydd y Rose Bowl i’r cystadleuydd mwyaf addawol yn yr Adran Gerdd. (Nia Davies)
Unawd dan 8 oed – 1. Anni Wyn Thomas, Talyllychau. 2. Ifan Wyn Morris, Llanfihangel ar Arth. 3. Eila Loader, Caerdydd.
Unawd dan 8 oed – 1. Anni Wyn Thomas, Talyllychau. 2. Ifan Wyn Morris, Llanfihangel ar Arth. 3. Eila Loader, Caerdydd. (Nia Davies)