DAETH llwyddiant i Ifan Meredith, Fflur Meredith, Lowri Meles James Evans ac Hanna Meles James Evans o Ysgol Bro Pedr yn adran celf, dylunio a technoleg, yn Eisteddfod Sir yr Urdd.Cipiodd Ifan ddwy wobr gyntaf am wehyddu a gwaith dylunio a thechnoleg, ail am artefact a trydydd am emwaith. Cafodd Fflur ddwy wobr gyntaf am wehyddu a gwaith dylunio a thechnoleg, ail am emwaith a trydydd am waith tecstiliau 3D.Cipiodd Lowri wobr gyntaf am gyfres o brintiau monocrom ac am gyfres o brintiau lliw, a Lowri a Hanna yn cipio’r wobr gyntaf am greu pypedau.
Llwyddiant celf i ddisgyblion Bro Pedr







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.