Mae un o lawysgrifau enwocaf Cymru wedi ysbrydoli prosiect cerddoriaeth arbennig gan yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n pontio rhwng Cymru ac Awstralia, gydag un o’r caneuon wedi’i dewis fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru.
Cafodd y band Siddi o Lanuwchllyn a’r cerddor, Siobhan Owen, sydd â’i gwreiddiau ar Ynys Môn ond sy’n byw yn Awstralia, eu cyfareddu gan y straeon yn Llyfr Gwyn Rhydderch, diolch i Maredudd ap Huw o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ac roedd cyfle i glywed y gân, Matholwch, drwy gydol yr wythnos ar Radio Cymru. Mae cyfle hefyd i ffrydio’r gân sydd ar gael ar blatfformau digidol drwy label newydd yr Eisteddfod, LABEL EG a label Siddi, Recordiau I Ka Ching.
Meddai trefnydd a phennaeth artistig yr Eisteddfod, Elen Elis: “Ry’n ni wedi bod yn gweithio gyda G?yl Geltaidd Genedlaethol Awstralia ers peth amser, ac mae wedi bod yn bleser creu’r cywaith rhwng Siddi a Siobhan Owen.
“Mae’u cerddoriaeth nhw’n asio’n berffaith gyda’i gilydd ac mae’r ffaith eu bod nhw wedi’u hysbrydoli gan un o’n llawysgrifau mwyaf gwerthfawr fel cenedl wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y chwedlau a’r cymeriadau mewn ffordd hollol ffresh a newydd.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect yma’n datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf, ac ry’n ni hefyd yn teimlo’n gyffrous iawn fod y gerddoriaeth yn cael ei ryddhau ar label gerddoriaeth newydd yr Eisteddfod, LABEL EG, a chyda label Siddi, Recordiau I Ka Ching.”
Bydd cân arall o’r cywaith, Cylch Casineb, yn cael ei rhyddhau’n fuan.
Mae fideos ar gyfer y ddwy gân ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube yr Eisteddfod, www.youtube.com/c/EisteddfodGenedlaetholCymru
Mae’r fideo ar gyfer Matholwch wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan Jonny Reed.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.