Clwb Pêl-droed Penrhyn-Coch oedd cartref Cylch Cinio Aberystwyth yn ein cyfarfod cyntaf eleni ar nos Wener, 13 Ionawr a hynny yng nghwmni ein siaradwr gwâdd y Dr Talat Chaudhri, maer Aberystwyth ac arbenigwr ar yr ieithoedd Celtaidd.
Brodor o Essex yw Talat sydd wedi dysgu a meistroli y Gymraeg wedi iddo symud i Aberystwyth.
Cafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddo mewn ymateb i ffigyrau y cyfrifiad ar nifer siaradwyr yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion ac i hynny ysgogi ar drafodaeth fywiog ymhlith yr aelodau.
Hefyd yn y llun, chwith, y mae rhai o hoelion wyth y Cylch: John Williams, cadeirydd; Huw Prys Williams, ysgrifennydd; Dicky Wyn Davies, trysorydd a Wynne Melville Jones sydd wedi ei ddewis fel tywysydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth sydd i’w gynnal ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]



1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.