Merched y Wawr Dathlu Diwrnod y Llyfr
RYDYM wrthi bellach yn cynllunio ar gyfer dathliadau Diwrnod y Llyfr. Fel ymestyniad o brosiect ‘Bodo’ lle bu aelodau o Merched y Wawr yn gwirfoddoli mewn cylchoedd meithrin ar draws Cymru yn mynd i fewn i’r Cylchoedd a darllen llyfrau arbennig Dewin a Doti i’r plant bach am bump sesiwn, rydym yn awr yn gofyn iddynt ddychwelyd i’r cylchoedd i gyflwyno llyfr neu docyn llyfr yn rhoddedig gan Cyngor Llyfrau Cymru. “Mae Diwrnod y Llyfr wedi ei sefydlu bellach fel dathliad o fyd llyfrau a darllen,” meddai Elwyn Jones, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. “ac mae’n bleser gweld sefydliadau drwy Gymru gyfan yn cefnogi’r gweithgareddau. Rydym yn hynod ddiolchgar bod aelodau Merched y Wawr wedi rhoi o’u hamser i ymweld â chylchoedd meithrin i ddarllen gyda’r plant ac i ysgogi’r diddordeb mewn llyfrau.’’
Mae Meryl Davies, llywydd Merched y Wawr wedi bod yn gwirfoddoli a dywed “Dwi wedi mwynhau gweld ymateb y plant bach wrth iddynt weld y cymeriadau yn y llyfrau yn dod yn fyw - dwi’n edrych ymlaen i fynd atynt eto i ddathlu diwrnod y llyfr.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Dwi’n gwerthfawrogi cefnogaeth ariannol y Loteri Genedla-ethol i weithredu y cynllun ‘Bodo’, ac yn falch iawn o gael cydweithio pellach gyda Merched y Wawr a Chyngor Llyfrau Cymru. “Nod y cynllun gwreiddiol oedd ymestyn sgiliau Cymraeg y staff sydd yn gweithio ar lawr gwlad trwy gynnig cefnogaeth ymarferol iddynt yn y cylch a thrwy hynny gyfoethogi a chynyddu sgiliau iaith y plant. “Mae gan y Cylch Meithrin rôl bwysig yn cynnig gofal o safon a phrofiadau hwyliog ac anturus yn Gymraeg i blant bach Cymru. “Mae’r cylchoedd wedi elwa o waith gwirfoddol aelodau o Ferched y Wawr ac mae’r plant bach wrth eu boddau gyda’r llyfrau newydd!”







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.