Daeth cwmni Antena i campws Pwllheli Coleg Meirion-Dwyfor i gynnal gweithdy cyfrwng Cymraeg gyda myfyrwyr.

Roedd y gweithdy yn gyfle i fyfyrwyr gyda diddordeb mewn drama, perfformio a’r cyfryngau i ddysgu mwy am waith Antena, yn enwedig eu gwaith yn creu a golygu fideos Hansh.

Yn y bore cawsant gyfle i ddysgu am waith Hansh a chlywed tips ar sut i cyn­llunio a wneud fideos llwyddiannus.

Cafwyd hefyd sesiwn ar ddatblygu syniadau ar gyfer fideos cyn eu cyflwyno i Antena a derbyn adborth ganddynt.

Yn y prynhawn cafodd y myfyrwyr cyfle i ffilmio’r syniadau o gwmpas y coleg a gan ddefnyddio technegau fel sgrîn wyrdd.

I gloi’r dydd cafwyd arddangosfa o’r clipiau fideo.

Trefnwyd y diwrnod gan Ganolfan Sgiliaith, canolfan sydd yn darparu cefnogaeth flaengar ac arloesol ar ddwyieithrwydd yn y sector addysg ôl 14.

Cafodd y gweithdy ei ariannu drwy gynllun Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.