Soar
BORE dydd Sul, 27 Rhagfyr am 10yb cafwyd gwasanaeth diwedd blwyddyn gan Gwyn Hughes.Arwel Williams o Rosgadfan oedd yng ngofal gwasanaeth yr hwyr a’r testun oedd Y Doethion a’r Seren.Janet Wyn Hughes oedd wrth yr organ i’r ddau wasanaeth a llywyddwyd gan Dan Owen a Gwyn Hughes.Bore Sul, 3 Ionawr am 10yb roedd gwasanaeth cyntaf y flwyddyn yng ngofal Dan Owen a’r testun oedd croesawu’r flwyddyn newydd.Nos Sul am 6yh cynhaliwyd gwasanaeth y Plygain a threfnwyd gan Arwyn Hughes gyda chriw o’r plant yn cymryd rhan drwy ganu ambell i gân a hefyd cymerwyd rhan gan rhai o aelodau’r Capel; wedyn mwynhawyd paned yn y festri.Arwyn Owen Hughes oedd wrth yr organ ac fe lywyddwyd gan Gwyn Hughes a Dan Owen.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.