Capel Soar

FORE Sul, 1 Mai, am 10yb cafwyd gwasanaeth gan Ann Evans, Nefyn ac am 5yh Robert Morris, Penygroes. Arwyn Owen Hughes oedd wrth yr organ trwy’r dydd.Ar 8 Mai am 10yb cafwyd gwasanaeth yng ngofal Dan Owen gyda Beti Wyn Jones wrth yr organ. Am 2.30yp a 5.30yh aeth cynrychiolaeth o Gapel Soar i Gymanfa Annibynwyr Pen Llyn yn Rhiw.Fore Sul, 15 Mai, am 10.30yb ar y cyd â’r Ysgol Sul – Susan Rice Williams, Llanrug – caneuon a moliant i’r plant â Beryl Elis Jones wrth yr organ.Am 5yh Ficar Nefyn, Richard Wood oedd yn pregethu gyda Beti Wyn Jones wrth yr organ.Gwenodd yr haul yn garedig arnom yn Nefyn ddydd Sadwrn, 14 Mai. Da hynny oherwydd bu’n ddiwrnod prysur yn Soar a braf gweld pawb o’r to hyn i’r plant lleia yn cyd-weithio’n hapus er mwyn sicrhau croeso cynnes iawn i’n gweinidog newydd sef y Parch Glenys Jones, Pwllheli. Bydd yn gweinidogaethu’n rhan amser efo ni am ei bod hefyd yn weinidog rhan amser ym Mhenlan, Pwllheli. Nid oes Capten wedi bod wrth y llyw yn Soar er colli yr annwyl Barch Hedley Gibbard felly ‘rydym yn edrych ymlaen yn hyderus at gydweithio fel tîm i hyrwyddo gwaith yr Iesu yn ein treflan.Agorodd ddrysau festri Soar bnawn Sadwrn am 1.30yp - ein “Drws Agored” a chroesawyd aelodau a chyfeillion i gymryd rhan mewn cwis dan arweiniad y Parch Olwen Williams - ffrind triw iawn i Soar. ‘Roedd Meinir Pierce Jones a’i gwr Geraint yn dangos ffilm fer am fywyd Elisabeth Watcyn Jones - awdures a chyn-aelod yn Soar. Y Parch Richard Wood a’i wraig Naiomi oedd yn diddanu’r plant a chafwyd digon o hwyl.Am 3yp, symud i’r Capel (oedd wedi’i addurno’n hyfryd gan Arwyn Hughes, un o’r aelodau), ar gyfer y Croeso swyddogol a’r broses ffurfiol o sefydlu. Llywyddwyd gan Trevor Wyn Jones, Chwilog, Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Llyn ac Eifionydd a bu’r Sefydlu yng ngofal y Parch Euros Wyn Jones, Llangefni oedd wedi plannu’r hedyn a arweiniodd at benodiad y Parch Glenys Jones yn weinidog arnom. Darllennwyd o’r Gair gan ddwy o aelodau Soar - Meinir Pierce Jones a Janet Wyn Hughes a thraddodwyd y gweddïau gan y Parch Dylan Rhys Parry, Llandudno a’r Parch Carwyn Siddall, Llanuwchllyn. Cafwyd hanes yr alwad gan Dan Owen diacon yn Soar a rhoddwyd gair o groeso ar ran Cyfundeb Llyn ac Eifionydd gan y Parch Ioan Wyn Gruffydd, Pwllheli, Elwyn Hughes ar ran Capel Isa, Nefyn a’r Parch Richard Wood ar ran Gofalaeth Bro Madryn. Athrawon yr Ysgol Sul, sef Brenda Dobson, Beryl Ellis Jones a Sian Hughes oedd yn cyflwyno’r emynau a’r cyfeilyddion oedd Beti Wyn Jones ac Arwyn Hughes. Braf oedd clywed y plant yn canu ac ‘roeddynt yn llwyr haeddu te oedd wedi’i baratoi i bawb yn y Ganolfan. Braf oedd cael cyd gymdeithasu ar derfyn diwrnod bendithiol.

Ysgol Botwnnog

Dyma tîm rygbi Bl 8 a 9 Ysgol Uwchradd Botwnnog sydd newydd ennill Twrnament Rygbi 7 bob ochr i’w oedran a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghlwb Rygbi Caernarfon, gan guro Ysgol Tryfan yn y gêm derfynol.