Llyn Maritime Museum

EXHIBITING from 4 to 30 June is Making Waves/Hwylio’mlaen. A digital photographic exhibition showing how the young people of Llyn are currently involved with the sea.Croeso i pawb. A warm welcome to all.

Cyfeillion Plas Hafa

CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan nos Lun, 16 Mai, o dan lywyddiaeth Alun Jones. Croesawyd y Cyng Sian Hughes atom i’r Cyfeillion a diolchwyd iddi am ymuno â ni. Nodwyd fod y Cyfeillion wedi gofalu am gennin pedr ar gyfer Dydd Gwyl Dewi a chardiau Pasg ar gyfer pob uned yn y cartref. Roedd pawb yn llongyfarch Edna Hughes yn fawr ar gyrraedd ei 100 oed. Bu dathliadau mawr ymlaen yn y cartref ddydd Gwener a’r lle yn orlawn o gardiau a blodau. Mae’r siop bach yn dal i fod yn boblogaidd â’r gwirfoddolwyr yn mwynhau troi i mewn bob wythnos. Gan fod angen teledu newydd pasiwyd i gyfrannu i fyny i £400 i’r pwrpas. Penderfynwyd i gynnal bore coffi yn festri Capel Penlan, Pwllheli, fore Mercher, 7 Medi, gyda paned o choffi neu te a bisgedi a byrddau gwerthu. Soniodd Wendy Owen fod angen staff wrth gefn a dylai unrhyw un sydd angen fwy o wybodaeth gysyllltu gyda’r cartref. Bydd y cyfarfod nesaf am 7.30yh ar nos Lun, 25 Gorffennaf.

Merched y Wawr

CYFARFU Merched y Wawr nos Wener, 13 Mai, a chael noson ddifyr iawn yn ymweld â Bad Achub Porthdinllaen. Cawsom ein tywys o amgylch y bad a’r cwt gan Robat ac yr oedd pawb wedi dotio mor lân oedd y gwch ac mor fawr. Cawsom eistedd yn y seti a dringo i lawr i’r gwaelodion. Yr oedd ein edmygedd ni i gyd yn fawr o’r gwaith a wneir gan y dynion a’r merched a’u dewrder yn troi allan ym mhob tywydd.Diolchwyd yn gynnes iawn am y cyfle i gael ymweliad mor arbennig. Gorffennwyd y noson gyda phryd o fwyd yn y Clwb Golff. Gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer ymweliad â Chaffi Ni yn y Wern ar 10 Fehefin.

Os oes unrhyw un awydd ymuno â ni bydd croeso, dim ond cysyllltu â Dilys (720791) neu unrhyw aelod arall yr wythnos cynt. Yr ydym wir angen aelodau newydd er mwyn medru cynnal y gangen y tymor nesaf felly dewch i gael blas ar y gymdeithas.