Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 yr Urdd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid ‘galw nhw allan’.

Eleni crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r cerddor Eädyth a swyddog cynnwys addysg S4C, Natalie Jones.

Mae’n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i:

• Datgymalu camwahaniaethu systemig

• Herio rhagfarnau diarwybod

• Galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser.

Pob blwyddyn mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn rhoi llais i blant a phobl ifanc Cymru i dynnu sylw’r byd at bwnc perthnasol a phwysig.

Fel rhan o’r neges, mae’r Urdd yn darparu pecyn addysg ar thema gwrth-hiliaeth. Mae’n gyfle arbennig i ddarparu a chefnogi addysg i blant a phobl ifanc ar bwnc hollbwysig a chyfoes.

Eleni mae’r Urdd wedi cyd-weithio gyda S4C er mwyn creu’r pecyn addysg.

Ym mis Ionawr 2023 cafwyd gweithdy yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd er mwyn creu’r neges.

Cydweithiodd grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i greu’r neges, gyda chymorth y cerddor Eädyth, Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones, a Sunil Patel o No Boundaries.

Neges heddwch yr Urdd 2023
Neges heddwch yr Urdd 2023 (Urdd)

Cafwyd trafodaethau pwysig iawn yn ystod y dydd, ac o fewn ychydig o oriau roedd geiriau pwerus y neges wedi dechrau ffurfio.

Meddai Eädyth: “Y neges tu ôl i’r neges ydy edrych ar ôl ein gilydd, yn enwedig pobl sydd efo cefndiroedd gwahanol.

“Dwi’n meddwl fel person o liw gwahanol mae’n rili bwysig i ni addysgu a chario ‘mlaen i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar ôl ein gilydd ac adeiladu cymdeithasau saff i bobl, a dyna beth mae’r neges yn ei ddweud.”