Troi i gyfeiriad Pontarfynach ac i westy hyfryd Yr Hafod fu hanes aelodau Cylch Cinio Aberystwyth ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf.

Bu’n draddodiad ers dechrau’r Cylch Cinio i gynnal cyfarfyddiad Gorffennaf drwy daflu’r rhwyd ychydig yn bellach na’r mannau cyfarfod arferol lleol yn Aber a thro Pontarfynach (neu o’i gyfieithu yn llythrennol o’r Saesneg Pont y Gẁr Drwg} oedd hi eleni.

Y gẁr gwadd ar gyfer y cyfarfod oedd Tom Griffiths, Llandre, un a fu’n allweddol yn y broses o dreialu a phrofi taflegrau a rocedi. Cododd gwr y llen ar y gweithgareddau yn y ganolfan arbrofi (RAE) yn Aberporth lle bu’n gweithio am flynyddoedd cyn treulio cyfnod yn Awstralia ac yna symud i Loegr i’r brif ganolfan ac ymsefydlu yn Farnborough.

Oherwydd natur y gwaith roedd yna gyfrinachedd mawr am y gweithgareddau ac er pwysigrwydd y ganolfan yn Aberporth i amddiffyn ac i ddiogelwch y wlad ac i ymosodiadau ac yn wir i gyflogaeth ac economi gorllewin Cymru cyfyng iawn oedd gwybodaeth y Cardis am yr hyn oedd yn digwydd yno.

Roedd y sleidiau a ddangoswyd i ddarlunio’r gweithgareddau yn dangos impact a phwysigrwydd rhan helaeth iawn o arfordir gorllewinol Cymru gyda’r gwaith arbrofi a’r stori yn un anghyfarwydd a gwahanol iawn i aelodau’r Cylch Cinio.

Wrth ddiolch i Tom Griffiths, dywedodd Tudor Jones ein bod yn dueddol o feddwl am ardal y Mynydd Bach yng Ngheredigion fel magwrfa i feirdd a llenorion heb sylweddoli bod un a fagwyd yn Bethania a chyn ddisgybl o Ysgol Cross Inn ac Ysgol Uwchradd Aberaeron wedi dringo i frig y byd soffistigedig o arbrofi taflegrau.

Er iddo ddod yn un o ffigyrau blaenllaw ei faes mae ei wreiddiau yn ddwfn yng Ngheredigion ac mae bellach yn rhannu ei amser rhwng Llandre a Farnborough.

Y cyfarfod hwn oedd yr olaf i John Williams fel cadeirydd y Cylch Cimio. Bu’n flwyddyn fawr a gwahanol i’r arfer gydag effeithiau’r pandemig wedi amharu ar y gweithgareddau a olygodd bod John wedi gorfod cario baich y Cadeirydd am ddeunaw mis.

Trosglwyddwyd y gadair i ofal Vaughan Griffiths, Bow Street am y flwyddyn nesa. Wrth dalu teyrnged i John am ei waith clodwiw dywedodd mai uchafbwynt y flwyddyn oedd cyflwyno Cadair Eisteddfod Fawr Tregaron, crefftwaith un o’n haelodau Rees Thomas, Bow Street a hynny mewn cinio ysblennydd ar faes yr Eisteddfod.

Wrth ffarwelio a’r Gadair diolchodd John Williams i bawb a fu mor gefnogol yn ystod y cyfnod ac yn arbennig i Huw Williams (Ysgrifennydd), DickyWyn (Trysorydd) ac i Dafydd Evans a Wyn Mel am rannu gwybodaeth am y Cylch i’r byd mawr. Cytunodd y pedwar i barhau yn ei swyddi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Etholwyd a derbyniodd Geraint Vaughan y swydd o is-gadeirydd ac ef fydd yn symud i’r gadair ymhen y flwyddyn fel olynydd i Vaughan Griffiths.

Cyflwynodd Dicky Wyn yr adroddiad ariannol. Mae sefyllfa’r Cylch yn iach ac yn gadarn. Eleni eto noddwyd pump papur bro y dalgylch yn ogystal chefnogi achosion da megis Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais, Ambiwlans Awyr Cymru, Apêl Daeargryn Twrci a Syria a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cytunwyd hefyd i gefnogi ymgais Roy James Llanilar, un o’r aelodau, i godi arian i gronfa Cancr y Prostad gyda rhodd ariannol o £250.

Enillwyd y raffl gan Vaughan Griffiths a dymunwyd Penblwydd Hapus i Richie Jenkins, Penrhyncoch.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]