YR wythnos hon gwelir Cymraeg Graenus, y gyfrol anhepgor i bawb sydd eisiau gwella eu gafael ar Gymraeg ysgrifenedig, yn cael ei ailgyhoeddi gan y Lolfa.
Mae’r gyfrol wedi ei hysgrifennu gan Phylip Brake, sydd â phrofiad helaeth fel golygydd, darlithydd ac ymchwilydd yn y Gymraeg fel pwnc ac fel datblygydd adnoddau dysgu Cymraeg i Oedolion.
Mae Cymraeg Graenus yn cynnwys cyfeirlyfr gramadeg cyfoes cryno gydag esboniadau gramadegol clir a chryno, gwerslyfr sy’n cynnwys dros 70 o ymarferion gramadegol penodol ar ddiwedd pob pennod, ymarferion adolygu cyffredinol, allwedd i’r ymarferion, ynghyd â chymhariaeth o ffurfiau llenyddol a ffurfiau llafar.
Meddai’r awdur Phylip Brake: “Rwy’n falch iawn gweld yr argraffiad newydd yma o Cymraeg Graenus, sydd wedi ei ddiweddaru a’i ymestyn, yn gweld golau dydd. Mae’r cwrs ar gyfer y sawl sydd am wella ei sgiliau ysgrifennu yn y Gymraeg, wedi ei ysgrifennu mewn iaith bob dydd, ac mae’r ymarferion wedi eu dewis yn ofalus i alluogi myfyrwyr i roi sglein ar eu Cymraeg ysgrifenedig.”
Bwriedir i Cymraeg Graenus gael ei ddefnyddio yn y dosbarth – fel rhan o gwrs meistroli neu’n sylfaen i gwrs graenus o’r iawn ryw – neu fel cwrs astudio preifat.
Mae Cymraeg Graenus gan Phylip Brake ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.