GYDA gwrthdaro byd-eang cynyddol yn gefndir, mae pobl ifanc Cymru yn parhau â thraddodiad sy’n rhedeg yn ddi-dor ers dros ganrif.
Mae’r 105fed Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd wedi cael ei darlledu i’r byd, gan ddatgan bod “heddwch yn siarad pob iaith”.
Cafodd neges eleni, sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cadw ieithoedd lleiafrifol, rhanbarthol a brodorol, ei lansio yn Camp Nou Spotify ym Marselona, sef stadiwm pêl-droed mwyaf Ewrop sy’n symbol hanesyddol o hunaniaeth Gatalanaidd.
Bob blwyddyn ers 1922, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges heddwch sy’n trafod materion byd-eang hanfodol, o’r bom atomig i newid hinsawdd.
Mae’r hyn ddechreuodd gyda chod Morse bellach wedi esblygu yn ymgyrch ddigidol fyd-eang, a dyma’r unig neges heddwch genedlaethol yn y byd a gaiff ei hysgrifennu a’i darlledu gan bobl ifanc i bobl ifanc.
Gydag arbenigwyr yn rhybuddio y gallai hanner y 7,000 o ieithoedd yn y byd ddiflannu erbyn diwedd y ganrif oherwydd globaleiddio, mudo, a newid hinsawdd, mae neges 2026 yn alwad ingol i weithredu.
Mae’n atgoffa arweinwyr byd a dinasyddion fel ei gilydd bod diogelu amrywiaeth ieithyddol yn ddull hanfodol o feithrin heddwch.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Ers dros ganrif, mae’r Urdd yn grymuso pobl ifanc Cymru i siarad allan ynghylch materion mwyaf dybryd y byd.
“Mae lansio neges eleni o Camp Nou Spotify yn symbol pwerus o undod rhyngwladol rhwng ieithoedd lleiafrifol.
“Rydyn ni’n dangos y gall cymunedau ieithyddol bach greu llais cyfunol enfawr, a phan fydd ieithoedd yn ffynnu, mae cyfle i heddwch.”
O dan thema bwerus ‘Ieithoedd Lleiafrifol’, arweiniwyd y neges eleni gan y bardd clodwiw Marged Tudur mewn cydweithrediad â myfyrwyr yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, Coleg Cambria, a Phrifysgol Wrecsam.
Fe’i hysgrifennwyd mewn gweithdy undydd ochr yn ochr â’r artist poblogaidd Sioned Medi Evans a’r academydd iaith Dr Ianto Gruffydd ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae'r neges yn archwilio'r rôl hanfodol y mae ieithoedd yn ei chwarae wrth feithrin empathi, perthyn a chydfodolaeth heddychlon.
Wrth drafod y broses o lunio’r neges eleni, meddai Marged Tudur: “Braint oedd cael gweithio gyda phobl ifanc Wrecsam i lunio’r neges hon.
“Maen nhw’n gweld bod ieithoedd lleiafrifol yn hanfodol er mwyn adeiladu heddwch ac er mwyn gallu dod i ddeall ein hunain, ein gilydd a'r byd yn well.
“Maen nhw’n datgan yn glir hefyd bod amddiffyn ein hamrywiaeth ieithyddol yn gyfrifoldeb ac yn ddyletswydd inni gyd.”
Mae neges 2026 wedi’i chyfieithu i 75 o ieithoedd, gan gynnwys mwy o ieithoedd lleiafrifol nag erioed o’r blaen, fel Cwrdeg, iaith a siaredir mewn gwladwriaethau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro, fel Iran a Syria.
Wedi’i gyrru gan leisiau pobl ifanc Cymru a’i hyrwyddo gan ffigurau fel tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, mae’r ymgyrch yn gobeithio cyrraedd dros 40 miliwn o bobl yn fyd-eang
Meddai un o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru a llysgenhadon yr ymgyrch Ffion Morgan, yn siarad yn Camp Nou Spotify: “Fel siaradwr Cymraeg ac athletwr, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i fod yn falch o’ch gwreiddiau wrth gysylltu gyda’r byd ehangach.
“Mae rhannu’r neges yma o leoliad byd-eang eiconig fel Camp Nou Spotify yn dangos bod pobl ifanc yn barod i arwain y sgwrs.
“Mae heddwch yn siarad pob iaith, ac mae pobl ifanc Cymru yn gofyn i’r byd wrando.”
Mae Ffion yn ymuno â’i chyd-chwaraewyr Cymru Dylan Lawlor, Carrie Jones, Rubin Colwill a chapten Cymru Angharad James-Turner i ddarllen y neges eleni fel rhan o fideo ymgyrch swyddogol 2026, y mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i’w rannu.
Mae eu cyfranogiad yn adlewyrchu cefnogaeth gref Cymdeithas Bêl-droed Cymru i’r ymgyrch a’i neges.

Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae timau rhyngwladol Cymru yn ymfalchïo’n aruthrol mewn cynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang, gan arddangos ein hunaniaeth, ein hiaith, a’n gwerthoedd craidd fel cenedl i’r byd.
“Mae’r Urdd yn gwneud yr union yr un fath drwy ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da hanesyddol.
“Mae ein partneriaeth barhaus yn profi bod Cymru, ar y cae ac oddi arno, yn parhau i anelu’n uchel i hyrwyddo parch, amrywiaeth a heddwch yn fyd-eang.”
Mae lleoliad y lansiad, Camp Nou Spotify, yn cynnig symbol pwerus o wydnwch ieithyddol, sydd â chysylltiad dwfn â hunaniaeth y Gatalaneg.
Yn fframio’r lansiad fel cyfarfod rhwng dwy iaith leiafrifol wedi’u hadfywio ac sy’n wleidyddol arwyddocaol: Cymraeg a Chatalaneg.
Mewn cyfnod o raniadau dwfn a dadleoli eang, mae neges yr Urdd yn ein hatgoffa bod heddwch yn cael ei adeiladu ar empathi, ar barch, ac ar ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae pobl ifanc Cymru yn defnyddio eu platfform i fynnu dyfodol lle mae pob llais ym mhob iaith yn cael ei glywed.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.