MAE porth archebu gwobrau Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd wedi agor, gyda channoedd o gyfleoedd ar gael i gefnogi’r brifwyl a gynhelir ar lannau’r Afon Dyfi, Cemaes, ger Glantwymyn o 31 Gorffennaf i 7 Awst y flwyddyn nesaf.
Mae cynllun gwobrau’r Eisteddfod yn ffordd hwylus a hawdd i gefnogi’r Eisteddfod, gan sicrhau bod eich cefnogaeth i’r ŵyl yn cael ei roi ar gof a chadw.
Mae gwobrau ar gael mewn nifer o feysydd, o farddoniaeth a rhyddiaith i gerddoriaeth a gwyddoniaeth, gyda chyfraniadau’n amrywio o ychydig bunnoedd i wobrau swmpus ar gyfer ambell seremoni. Mae cynnig gwobr yn ffordd ardderchog o gefnogi’r gwaith hwn gyda gwobrau’n cael eu cynnwys yng nghyfanswm y pwyllgorau apêl a’r gronfa leol.
Meddai cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Aled Griffiths: “Rydyn ni’n awyddus i gyrraedd pobl ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt er mwyn eu hannog i gefnogi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd.
“Rwy’n sicr y bydd galw mawr am wobrau gan drigolion lleol, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol iawn bod teuluoedd a mudiadau ar draws y wlad yn gweld cynnig gwobr yn yr Eisteddfod fel ffordd arbennig i gofio am anwyliaid a thalu teyrnged i rai a fu mor weithgar yn hyrwyddo’r Pethe dros y blynyddoedd.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cymorth rydym yn ei dderbyn gan bawb, ac mae pob ceiniog sy’n cael ei godi’n mynd tuag at sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.”
Mae cyflwyno gwobr yn hawdd – drwy fynd i Gwobrau 2027 | Eisteddfod, a dilyn y cyfarwyddiadau. Mae modd talu am wobr gyda cherdyn neu drwy drosglwyddiad banc. Gyda’r arian i gyd yn mynd i gronfa leol, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd, mae modd dewis cefnogi eich pwyllgor lleol, neu gyfrannu’n syth i’r gronfa leol gyffredinol wrth archebu gwobr.
Bydd manylion rhoddwyr pob gwobr yn cael eu cynnwys yn y rhaglen swyddogol a gyhoeddir ddechrau Gorffennaf y flwyddyn nesaf, a bydd y manylion hefyd yn cael eu cyhoeddi o’r llwyfan pan gyflwynir y wobr ym mhob cystadleuaeth. Bydd yr wybodaeth hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan ac app yr Eisteddfod Genedlaethol.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.