MAE dirgelwch newydd yr awdur hynod boblogaidd Alun Davies eisoes wedi cael croeso. Mae Y Corff o Dan y Ddaear (Y Lolfa) yn gafael yn syth wrth i’r Ditectif Magi Maelor ddarganfod corff mewn amgylchiadau dirgel.
Mae’r nofel afaelgar wedi cael ei disgrifio gan Siôn Tomos Owen fel “nofel gyfrwys wnaeth fy nghadw i’n troi’r tudalennau tan orie mân y bore” ac fel “Alun Davies ar ei orau”.
Mae’r stori gyfrin yn ddirgelwch sy'n dechrau wrth i gorff Remco Janssen, dyn o’r Iseldiroedd yn ei saithdegau, gael ei ganfod yn farw mewn byncer ar ei fferm tu fas i Lanilar yng Ngheredigion. Cafwyd hyd i Janssen a’i arddyrnau wedi’u torri a gyda nodyn yn ymddiheuro wrth ei ochr. Mae'n achos clir o hunanladdiad - hynny yw, tan i'r seicolegydd Hayden Wells awgrymu'n wahanol.
Meddai Alun, sy’n wreiddiol o Aberystwyth ond sy’m bellach yn byw yng Nghaerdydd: “Ro’n i’n ffan o ddramâu fel Cracker a Wire in the Blood, ac felly dwi wedi bod yn ystyried ysgrifennu rhywbeth mwy seicolegol ers tipyn. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd darllenwyr yn cael blas ar y seicolegydd Hayden Wells, y ditectif Magi Maelor, a’r berthynas rhwng y ddau, ac yn cael hwyl yn ceisio datrys y dirgelwch eu hunain.”
Mae Ditectif Magi Maelor yn canfod bod Janssen yn prepper – credwr cryf ym myd conspiracy theories. Roedd yn rhagweld bod argyfwng enbyd ar y gorwel ac wedi dechrau paratoi i oroesi’r gyflafan. Dim ond dechrau ar y stori ddirgel yw hynny.
Dyma wythfed nofel Alun Davies, sy’n cynnwys trioleg Taliesin MacLeavy; Pwy yw Moses John?, Tywyllwch y Fflamau a dwy nofel i’r arddegau am anturiaethau Manawydan Jones (enillodd y cyntaf, Y Pair Dadeni, wobr Tir na n-Og yn y categori Uwchradd yn 2023). Fel ei nofelau blaenorol, Ceredigion yw lleoliad y dirgelwch tywyll hwn ac mae’n llawn o droeon annisgwyl sy’n siŵr o blesio darllenwyr.
Mae Y Corff o Dan y Ddaear gan Alun Davies ar gael nawr (£10.99, Y Lolfa).




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.