MAE’R arwr rygbi Alun Wyn Jones wedi dweud bod methu siarad ei iaith ei hun wrth deithio’r byd yn “rhywbeth nad ydw i’n falch ohono”.
Nawr, gyda gwraig a thair merch sydd i gyd yn siarad Cymraeg adref, mae cyn-gapten Cymru a’r Llewod yn benderfynol o newid ac yn dweud bod dysgu Cymraeg “i wneud gyda nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad.”
Pob wythnos ar Iaith ar Daith mae person enwog yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o'r iaith a chymryd rhan mewn sialensau, a hynny yng nghwmni mentor adnabyddus.
Ym mhennod gyntaf y gyfres newydd, mae Alun Wyn Jones yn ymuno â’r actor a'r brodor o Abertawe, Steffan Rhodri. Mae Steffan yn seren ffilm, theatr a theledu ac yn adnabyddus i lawer fel Dave Coaches o’r gyfres gomedi boblogaidd Gavin & Stacey.
Mae’r ddau yn teithio o gwmpas Cymru, yn ymweld â llefydd ac eiliadau sydd wedi siapio eu bywydau.
Yn Ninas Mawddwy, maen nhw’n ymweld â Wern Ddu, cartret teuluol ochr mam Alun, lle mae’n cofio ymweld fel bachgen bach ac yn cwrdd â pherthynas bell sydd dal yn byw yn yr ardal.
Mae’r daith yn mynd â nhw i Glwb Rygbi Bôn-y-maen, sydd ag arwyddocâd arbennig i Alun, cyn dychwelyd i Goleg Llanymddyfri, lle bu’n astudio Lefel A ar ysgoloriaeth rygbi.
Yn y rhaglen, dywedodd Alun Wyn Jones: "Roedd teithio'r byd a pheidio gallu siarad dy iaith - wrth edrych yn ôl - yn rhywbeth nad ydw i'n falch ohono."
"Nawr, gyda tair merch a gwraig sydd yn siarad Cymraeg adref - dwi angen gwybod beth sy'n mynd ymlaen ond, yn y pendraw, mae rhan fawr ohono i wneud gyda nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad."
Mae’r gyfres newydd hon hefyd yn cyflwyno elfen newydd o hel achau. Yn ogystal â dysgu Cymraeg, mae’r cyfranwyr yn olrhain eu hanes teuluol, gan ddarganfod straeon personol ar hyd y ffordd.
Bydd Iaith ar Daith gydag Alun Wyn Jones a Steffan Rhodri i'w gweld ar S4C nos Sul yma, Hydref 12, am 9pm, ac ar gael hefyd ar S4C Clic ac BBC iPlayer.
Yn ddiweddarach yn y gyfres, mae’r actor Callum Scott Howells (It’s a Sin) yn ymuno â’r cerddor Lisa Jên o'r band 9Bach, a Melanie Walters (Gavin & Stacey) yn cael ei thywys gan ei ffrind, yr actor Donna Edwards (Pobol y Cwm).
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.