MAE S4C wedi penodi Tecwyn Davies fel pennaeth ffrydio a digidol - rôl allweddol wrth wireddu amcanion Strategaeth 2030 S4C: ‘Mwy na Sianel Deledu’.

Bydd Tecwyn yn arwain ar waith sydd yn ymestyn tu hwnt i ddarlledu traddodiadol, yn ehangu presenoldeb digidol S4C a chofleidio’r cyfleoedd i wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol ar draws amryw o blatfformau - gan symud yn hyderus at fod yn wasanaeth digidol-yn-gyntaf.

Mae gan Tecwyn brofiad helaeth yn y maes digidol, a llwyddiant wrth adeiladu cynulleidfaoedd ac ymgysylltiad i rai o frandiau chwaraeon, cyfryngau ac adloniant amlyca’r byd

Gyda gyrfa yn ymestyn dros rolau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, FIFA, Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Rygbi'r Byd, mae Tecwyn wedi cyflwyno strategaethau a chynnyrch digidol arloesol sydd wedi trawsnewid y ffordd mae defnyddwyr yn ymgysylltu.

Gan arbenigo mewn datblygu cynnyrch digidol, ymgysylltu â defnyddwyr a thwf sy’n cael ei yrru gan ddata, mae Tecwyn wedi goruchwylio creu gwefannau, apiau, gwasanaethau ffrydio a llwyfannau ’gaming’ sydd wedi cyrraedd miliynau o ddefnyddwyr ledled y byd.

Dywedodd Geraint Evans, prif weithredwr S4C: "Rydym wrth ein boddau i groesawu Tecwyn i’r tîm ar adeg mor allweddol yn esblygiad S4C wrth i ni roi ffocws cynyddol ar ffrydio a phlatfformau digidol mewn ymateb i newidiadau sylweddol mewn arferion gwylio.

“Mae’r strategaeth ‘Mwy na Sianel Deledu’ yn galw am feddwl beiddgar a dull digidol blaengar, ac mae Tecwyn yn dod â’r weledigaeth a’r profiad i’n helpu i gyflawni hynny."

Ychwanegodd Tecwyn Davies: Mae’n fraint ymuno â S4C ar adeg mor gyffrous, gyda Strategaeth 2030 yn gosod gweledigaeth hyderus ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n angerddol am adeiladu cynulleidfaoedd digidol a sicrhau bod S4C yn cysylltu â mwy o bobl nag erioed o’r blaen, gan ddathlu Cymru a’r Gymraeg ar bob llwyfan. Wrth weithio ochr yn ochr â thîm mor wych, alla i ddim aros i ddechrau.”