CYNHELIR digwyddiad arbennig yn Llyfrgell y Dref, Aberystwyth ar nos Lun, 2ail o Dachwedd am 7yh, pan fydd Llyr Titus yn holi Gruffydd Aled Williams am ei gyfrol Ar Drywydd Owain Glyndŵr (Y Lolfa).

Bydd hefyd cyfle i wylio rhagflas o raglen ddogfen newydd am Owain Glyndŵr a gynhyrchwyd gan Rondo.

Bydd Siop Inc yn gwerthu copïau o’r llyfr ar y noson.