MAE Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i ystyried sut mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn gweithredu ei gynllun iaith Gymraeg.
Ymhlith yr argymhellion a nodir y mae cryfhau ymwybyddiaeth staff o'r iaith a’r diwylliant, datblygu system fwy effeithiol ar gyfer adnabod a chofnodi sgiliau iaith, a sicrhau fod carcharorion yn ymwybodol fod modd iddynt gyfathrebu yn Gymraeg gyda’i gilydd ac â chysylltiadau allanol.
Serch hynny, mae’r adroddiad hefyd yn nodi fod rhai datblygiadau cadarnhaol ar waith, a hynny yn dilyn ymweliad y Comisiynydd â charchar y Berwyn fis Tachwedd llynedd. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth wedi ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr ymchwiliad, sy’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gwelliannau pellach.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: “Yn dilyn ymweliad â charchar y Berwyn y llynedd lle cefais gyfle i drafod y ddarpariaeth Gymraeg gyda staff a charcharorion fe ddaeth yn amlwg fod yna bryderon ynghylch gweithrediad cynllun iaith Gymraeg y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Roedd gwaith ymchwil gan arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd a Lerpwl hefyd yn adleisio’r pryderon hyn lle nad yw hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg yn cael eu hystyried yn ddigonol yng ngharchardai Cymru.
“O ganlyniad penderfynais gynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai gyda’r nod o sicrhau bod yr ymrwymiadau yn eu cynllun iaith yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn arwain at welliannau sylweddol.
“Er bod yr ymchwiliad wedi nodi pryderon sylweddol ynghylch profiadau rhai carcharorion o ran defnyddio’r Gymraeg, rhaid pwysleisio fod y dystiolaeth sydd ar gael yn gyfyngedig o ran ei chwmpas a’i natur. O ganlyniad, nid oedd modd dod i gasgliad pendant fod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wedi methu â chydymffurfio â’i gynllun iaith Gymraeg ar sail y dystiolaeth a ystyriwyd.
“Ond mae’r ymchwiliad wedi amlygu meysydd clir lle mae angen cryfhau trefniadau, gwella eglurder, a chynyddu hyder carcharorion Cymraeg eu hiaith yn ymarferoldeb y ddarpariaeth. Rwyf felly wedi nodi argymhellion penodol a bydd fy swyddfa yn gweithio gyda swyddogion y gwasanaeth i sicrhau fod rhain yn cael eu gweithredu ar fyrder.
“Fel asiantaeth gweithredol o’r Goron, nid yw’r gwasanaeth carchardai yn dod o dan Safonau’r Gymraeg, ac mae fy mhwerau yn gyfyngedig oherwydd hynny. Dyma ddangos eto yr angen i ehangu cwmpas y Safonau i gynnwys mwy o sefydliadau a sectorau. Rwyf wedi gwneud y galwadau hyn yn gyson a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithredu i’r cyfeiriad hwn.”
.jpeg?trim=27,0,162,0&width=752&height=501&crop=752:501)

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.