YM mhennod nesaf Y Cyfweliad ar S4C, mae'r gantores a'r cyflwynydd Bronwen Lewis, sydd hefyd yn un o Hyfforddwyr Y Llais ar S4C, yn siarad o’r galon am ddiagnosis cancr ei brawd bach a sut mae'r profiad wedi dangos iddi hi a'i theulu beth sy'n bwysig.
Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) yw Y Cyfweliad - lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.
Bronwen Lewis yw'r trydydd i gymryd rhan yn y gyfres newydd hon fydd i'w gweld ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Fawrth 13 Ionawr am 21.00.
Yn ystod y sgwrs, mae Mair, sydd eisiau bod yn nyrs, yn gofyn i Bronwen am frwydr diweddar ei brawd bach gyda chancr.
Mae hi'n egluro bod ei brawd wedi darganfod lwmp yn ddiweddar ac wedi derbyn diagnosis o gancr y ceilliau a oedd wedi lledu i’w stumog a’i ysgyfaint – newyddion a ddaeth yn “sioc enfawr” i’r teulu.
Dywedodd Bronwen Lewis: “O'dd e wedi dangos i ni fel teulu beth sy’n bwysig mewn bywyd - bod yn iachus, a teulu. Mae'n bwysig iawn i roi'r amser 'na."
Mae hi’n egluro, fel yr hynaf o dri, bod gwylio ei brawd bach yn mynd trwy’r driniaeth yn arbennig o anodd: “Pan ti yw’r un henach, ti wastad moyn edrych ar ôl dy frawd bach.
“I glywed bod e'n mynd trwy salwch a wedyn wrth gwrs cafodd e driniaeth, a wedyn i weld e'n colli gwallt a colli lliw - o'dd hwnna'n anodd.
“Mae neb rili yn paratoi ti i weld brawd bach ti'n edrych yn llwyd a dim gwallt.”
Mae ei brawd hi bellach yn rhydd o gancr ac mae Bronwen yn datgelu ei bod hi wedi addo mynd ag o i wylio Eurovision – rhywbeth y mae’n ffan mawr ohono – ar ôl y driniaeth gan roi nod clir wrth iddo wella: “O'dd hwnna fel amcan - ac aethon ni i'r Swistir i wylio Eurovision a chael lot o hwyl."
Yn ystod y cyfweliad, mae Bronwen Lewis hefyd yn siarad am ei phrofiad o dderbyn diagnosis o ADHD yn 28 mlwydd oed, ar ôl blynyddoedd o frwydro heb ddeall yn llawn pam.
Mae’n dweud iddi gael y sylweddoliad wrth wrando ar raglen radio oedd yn trafod ADHD ac awtistiaeth mewn menywod: “O’dd pob un menyw oedd yn ffonio mewn yn swnio fel fi.
“A fi wedi deall nawr o ni'n drist pryd 'ny achos o ni ddim yn gwybod bod y symptomau yn effeithio arno fi gymaint. Mae burnout yn digwydd, a o’dd y doctor yn meddwl falle iselder o'dd e.
“Fi wastad yn dweud bod e fel 20 o tabs ar agor ar yr un pryd ar laptop – ac mae'n rhaid i ti drio ffocysu yn y foment a mae jest gormod yn mynd ymlaen yn y pen."
Dywedodd Bronwen bod derbyn y diagnosis yn emosiynol, ond yn ryddhad: "Nes i grio pan ges i'r diagnosis. Happy tears achos, o'r diwedd yn 28, oni'n gwybod pwy o ni."
Mae Y Cyfweliad – Bronwen Lewis ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o nos Fawrth 13 Ionawr am 21.00. Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae’r cyflwynydd a’r gantores Elin Fflur. Mae’r ddwy bennod gyntaf gyda Dafydd Iwan a Mike Phillips ar gael ar alw. Mae isdeitlau ar gael.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.