BYDD Côr a Cherddorfa’r Tair Sir yn perfformio ‘Angerdd a Gerdd’, gwaith newydd wedi ei gomisiynu yn arbennig gan yr Athro Paul Mealor ar eiriau’r bardd Menna Elfyn – a hynny i ddod a rhaglen y Pafiliwn ar y nos Sadwrn olaf i ben.

Mae’r seremoni bellach yn un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod, ac eleni bydd cerddorion ifanc o’r dair sir yn dod at ei gilydd i rannu llwyfan mewn dathliad o gerddoriaeth glasurol.

Cafodd Côr y Tair Sir ei sefydlu ar ôl creu Sir Dyfed yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac fe ddaeth yn enw adnabyddus yn y rhanbarth a thu hwnt. Penderfynwyd adfywio’r côr yn arbennig ar gyfer Eisteddfod eleni, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a nawdd gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog.

Yr Athro Paul Maelor
Yr Athro Paul Maelor (Chris O'Donovan)

Dechreuodd yr ymarferion yn y gwanwyn, gyda disgyblion o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Penfro yn dod at ei gilydd i baratoi. Dywedodd Paul Mealor fod yr ymateb i’r cyfansoddiad wedi bod yn wych.

“Daeth 150 o ddisgyblion ynghyd i ymarfer fy ngwaith newydd, i eiriau pwerus Menna Elfyn, ac roedd yn swnio’n wych o’r cychwyn cyntaf,” meddai. “Mae’n ddarn sy’n herio’r cerddorion ifanc, ond rwyf wrth fy modd gyda’u hymdrechion, ac rwy’n siŵr y bydd yn brofiad gwefreiddiol i’r gynulleidfa ar y noson.”

Mae gan Paul Mealor gysylltiad cryf â thraddodiad cerddorol Cymru. Cafodd ei eni yn Llanelwy, Sir Ddinbych, a’i fagu yng Nghei Connah, cyn astudio cyfansoddi gyda’r Athro William Mathias ym Mhrifysgol Efrog. Mae’n dweud mai Mathias, a ysbrydolodd ei yrfa gerddorol, yn enwedig ei gariad at gyfansoddiadau corawl.

Ynghyd â cherddoriaeth Mealor, bydd y noson yn cynnwys geiriau un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru, sef Menna Elfyn. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, ‘Mwyara’, gan Wasg Gomer hanner canrif yn ôl, ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau barddoniaeth, llyfrau plant ac antholegau. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu, gan ennill nifer fawr o wobrau ar hyd y daith.

Yn ogystal â nodi diwedd wythnos y brifwyl, bydd y perfformiad yn dathlu traddodiad cerddorol cyfoethog yr Eisteddfod, gan roi llwyfan i genhedlaeth newydd o gerddorion ifanc berfformio gwaith corawl o bwys.

Côr a Cherddorfa’r Tair Sir
Côr a Cherddorfa’r Tair Sir (Eisteddfod Genedlaethol)

Bydd cerddoriaeth glasurol yn rhan amlwg o raglen y Maes yn Llantwd eleni, gyda chyfres o berfformiadau a digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Y Stiwdio ac Encore. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae perfformiad o Atgof o'r Sêr – gwaith a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn, gyda geiriau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Bryn Terfel. Cafodd y gwaith ei berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001, a bydd eleni yn nodi chwarter canrif ers y cyflwyniad cyntaf hwnnw.

Mae wyth cân yn y cyflwyniad, ac eleni, byddant yn cael eu perfformio gan rai o enillwyr diweddar Gwobr Goffa Osborne Roberts, gan gynnwys Steffan Lloyd Owen, Meinir Wyn Roberts, John Ieuan Jones, Llinos Haf Jones, Dafydd Jones, Siriol Elin, Joshua Mills a Lisa Dafydd.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill mae cyfle prin i glywed dwy gân gan y cyfansoddwr Meirion Williams – mewn cyflwyniad sy’n coffáu 50 mlynedd ers ei farwolaeth.

Bu’r cerddor, Sioned Webb a Steffan Prys, ar ran yr Eisteddfod, yn chwilota yn archif y ddiweddar soprano Ceinwen Rowlands, gyda chymorth Maredudd ap Huw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Treuliodd Sioned gyfnod yn Llundain yn yr 1980au yn ymchwilio ac yn cwblhau traethawd MA ar fywyd a chrefft Meirion Williams, ond nid oedd yn ymwybodol o gasgliad Ceinwen Rowlands ar y pryd. Eleni daeth Sioned o hyd i ddwy gân ganddo yn y mesurau caeth – cywyddau gan Siôn Cent a Huw Morys (Eos Ceiriog) – ac aeth ati i olygu’r ddwy gyda chymorth Eurig Salisbury, awdurdod ar Eos Ceiriog.

Bydd y ddwy gân yn cael eu cluwed am y tro cyntaf ers 80 mlynedd eleni. Mae Nerys Williams, merch y cerddor, wedi cael gwahoddiad i fod yn yr Eisteddfod a chyflwyno’r ddwy gân i Tŷ Cerdd.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Mae arlwy clasurol cryf o amgylch y Maes yn y Garreg Las eleni. Rydyn ni’n falch iawn o weld cynifer o gyn-enillwyr yn dychwelyd i gymryd rhan mewn perfformiadau, gyda hyn yn gyfle i ni ddathlu’r cysylltiad rhwng cystadlu a gyrfa yn y maes cerddorol.

“Rydyn ni hefyd yn defnyddio canolfan Rhosygilwen ger y Maes fel canolfan ar gyfer ein rhagbrofion cerddorol yn ystod yr wythnos, ac mae croeso mawr i bawb fynd draw yno i fwynhau gwledd o gystadlu.

“Yn ddi-os bydd y perfformiad yn y Pafiliwn ar y nos Sadwrn olaf yn un o uchafbwyntiau’r wythnos. Mae’n wych cael cynnig llwyfan mor amlwg i gerddoriaeth glasurol yng nghalon yr ŵyl, tra hefyd yn rhoi cyfle i dalent ifanc o’r ardal fod yn rhan o brofiad mor unigryw, cael cyfle i gydweithio gyda un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru a dod â geiriau un o’n beirdd amlycaf yn fyw drwy gerddoriaeth. Bydd yn ddiweddglo cofiadwy i wythnos o ddathlu cerddoriaeth a pherfformio.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst eleni – mae mwy o wybodaeth a thocynnau ar gael yma.