Mae S4C wedi buddsoddi dros £136m mewn drama yng Nghymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

Daw’r ffigurau wrth i S4C, am yr ail flwyddyn yn olynol, gynnal un o Rowndiau Beirniadu Cynderfynol Gwobrau Emmy® Rhyngwladol 2026. Eleni, cynhaliodd y darlledwr y rowndiau beirniadu ar gyfer y categorïau Perfformiad Gorau gan Actores a Ffilm Deledu/Cyfres Fer.

Mae Rownd Feirniadu Gynderfynol S4C yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, ac mae’r derbyniad gyda’r nos yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Bad Wolf.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae dramâu S4C wedi teithio’r byd, gyda Dal y Mellt y gyfres Gymraeg gyntaf i gael ei rhyddhau ar Netflix a Bariau wedi cyrraedd cynulleidfaoedd yn Awstralia, Seland Newydd ac UDA ar ôl cael ei werthu i wasanaeth ffrydio Acorn TV.

Mae dramâu diweddar S4C yn cynnwys Cleddau, Y Golau: Dŵr, Ar y Ffin, Pren ar y Bryn ac Anfamol.

Mae’r ffilm Effi o Blaenau ar gael i'w gweld mewn sinemâu ar hyn o bryd ac wedi derbyn canmoliaeth gref gan adolygwyr ac wedi torri record y swyddfa docynnau am ffilm Gymraeg. Cafodd y cynhyrchiad ei gefnogi gan gronfa cynnwys masnachol S4C Rhyngwladol (S4C Rh).

Bydd S4C hefyd yn cefnogi cynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf, drwy gynllun Sinema Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Ffilm o’r enw Lluest ydi’r cyntaf yn y cynllun hwn, a bydd yn y sinemâu y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal, mae S4C wedi buddsoddi mewn dramâu digidol gan gynnwys Yr Alwad - drama fertigol gyntaf S4C, a gafodd ei henwebu yn y Gwobrau Ffilm Cenedlaethol ac yng Ngwobrau Digidol Broadcast.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd sawl drama newydd yn cael eu darlledu, gan gynnwys Y Streic Fawr a Santa Maria, drama gyntaf y darlledwr i gael ei chynhyrchu mewn partneriaeth ag ITV Studios a buddsoddiad ecwiti cyntaf cronfa cynnwys masnachol S4CRh mewn drama.

Mae S4C yn cefnogi cynyrchiadau ar hyd a lled Cymru ac, fel rhan o’r ymrwymiad hyn, wedi cyhoeddi Cronfa Ffilm Gymunedol newydd ar y cyd ag Am, platfform digidol sy’n dathlu diwylliant Cymreig, ac yn noddi gwobr newydd Ffilm Fer yn yr Iaith Gymraeg yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin 2027.

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C ac Aelod o’r Academi Rhyngwladol: Yn y ddegawd ddiwethaf, mae S4C wedi helpu i drawsnewid proffil rhyngwladol drama yn yr iaith Gymraeg, gan gysylltu cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda straeon sydd wedi eu gwreiddio yn niwylliant, talent a chreadigrwydd Cymru.

“Mae'r llwyddiant hwn yn amlwg yn ymrwymiad diwyro S4C i ddrama ac yng nghryfder ein partneriaethau ar draws y diwydiant. Drwy gydweithio, buddsoddi ac uchelgais greadigol, rydym yn parhau i ddarparu cynyrchiadau unigryw o'r safon uchaf sy'n ymgysylltu â chynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y byd.”

Ychwanegodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Pwrpas S4C yw adlewyrchu ein byd drwy’r Gymraeg ac mae drama yn rhoi’r rhyddid i ni fod yn arbrofol ac arloesol a gweld amrywiaeth o straeon o bob rhan o Gymru yn cael eu hadrodd ar y sgrîn.

“O straeon serch i straeon sy’n syfrdanu, mae’r ystod eang o gynyrchiadau yn destament i greadigrwydd y sector cynhyrchu yng Nghymru. Wrth i arferion gwylio newid, mae arddull ein dramâu hefyd yn newid. Ond un peth sy’n siŵr yw bod drama mewn dwylo da.”

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan: "Mae cynnal Rownd Feirniadu Cynderfynol arall ar gyfer cystadleuaeth Gwobrau Emmy® Rhyngwladol yng Nghymru yn tystio'n glir i hyder yn ein diwydiannau creadigol ffyniannus. Mae croesawu rheithgor ar gyfer un o wobrau teledu mwyaf mawreddog y byd yma yng Nghymru yn codi ein proffil yn rhyngwladol ac yn atgyfnerthu ein henw da fel cyrchfan byd-eang ar gyfer talent ragorol ar y sgrin.

"Rydyn ni wedi profi llwyddiant mawr hyd yma drwy ein partneriaeth werthfawr gydag S4C a byddwn yn parhau i gydweithio i gefnogi'r ymdrechion i greu cynnwys o ansawdd uchel, sydd wedi ei wneud yma yng Nghymru ac sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg, yn dathlu ein diwylliant ac yn creu cyfleoedd i bobl dalentog ar draws ein sector creadigol.

"Croeso mawr i'r tîm o feirniaid, a chroeso cynnes Cymreig i bawb sy'n ymweld."

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i S4C gynnal Rownd Feirniadu Gynderfynol Gwobrau’r Emmy® Rhyngwladol. Cafodd y rownd feirniadu ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar 2 Gorffennaf, gyda noson o groeso ar gyfer arweinwyr yn y diwydiant, y rheiny sydd yn creu ac eraill o fewn i’r diwydiant yn dilyn.

Mae Academi Ryngwladol Celfyddydau a Gwyddorau Teledu, gafodd ei sefydlu yn 1969, yn sefydliad aelodaeth nid-er-elw, wedi’i leoli yn Efrog Newydd, ac sydd wedi ei ffurfio o enwau blaenllaw yn y byd adloniant ar draws holl sectorau’r diwydiant teledu, ac sy’n hanu o dros 70 gwlad.

Derbyniodd yr Academi’r her o gydnabod rhagoriaeth mewn rhaglenni teledu a gynhyrchir y tu allan i’r UDA, ac mae’n cyflwyno Gwobr Emmy® Rhyngwladol i raglenni mewn 16 categori.

Bydd enillwyr yn y categorïau yn cael eu cyhoeddi yn y Gwobrau Emmy® Rhyngwladol, yn Efrog Newydd ar ddydd Llun, Tachwedd 23 2026.