AR ddydd Mawrth 4ydd o Awst am 4 o’r gloch mi fydd yna sgwrs yn y Babell Lên yn dathlu’r bardd a’r athro Eirwyn George. Mae ‘Cofio Eirwyn’ yn talu teyrnged i Brifardd dwbl Sir Benfro a gollwyd ynghynt yn y flwyddyn.
Yn ystod y sgwrs bydd atgofion personol gan ffrindiau a gwerthfawrogiad o’i waith ar lafar ac ar gân. Bydd y gyfrol Barddoniaeth Sir Benfro (Y Lolfa) hefyd yn cael ei lansio, cyfrol y bu Eirwyn yn ei pharatoi ond heb ei gorffen pan fu farw. Yn ystod y sesiwn bydd perfformiad gan Gôr Harmoni a darlleniadau o gerddi’r gyfrol gan aelodau’r pwyllgor llên a llefaru lleol gan gynnwys Eifion Daniels, Rhian Davies, Terwyn Tomos, Eirian Wyn Jones ac Ann Davies.
Meddai Maureen George, gweddw Eirwyn George: “Roedd Eirwyn wedi edrych ymlaen yn fawr iawn at Eisteddfod y Garreg Las. cafodd y pleser o gynllunio Barddoniaeth Sir Benfro wrth ddewis beirdd oedd yn gysylltiedig â Sir Benfro.
“Nid oedd Eirwyn wedi gorffen y gyfrol, felly, ar ôl iddo farw roedd yn rhaid bwrw ati ar unwaith i gwblhau’r gwaith. Wrth chwilio drwy ei waith papur deuthum o hyd i ddarn o bapur ac enwau’r beirdd arno. Gobeithio mai dyma’r drefn y byddai Eirwyn wedi ei dewis.”
Cafwyd nodiadau gan Eirwyn George ei hun am y gyfrol, dywed: “Mae hon yn flodeugerdd bwysig iawn yn hanes beirdd a barddoniaeth y sir. Mae’n cynnwys dwy adran – gwaith beirdd a aned yn Sir Benfro, a hefyd gwaith beirdd o siroedd eraill sydd wedi byw yn Sir Benfro am fwy na phedair blynedd. Ceisiwyd sicrhau amrywiaeth yn y detholiad.”
Mae Barddoniaeth Sir Benfro yn cynnwys cerddi gan 64 o feirdd gan gynnwys Waldo, T. Gwynn Jones, Tecwyn Ifan, Hefin Wyn, Ceri Wyn Jones, Mererid Hopwood a llawer mwy.
Meddai Menna Elfyn yn Rhagair y gyfrol: “Hyfrydwch pur oedd cael fy ngwahodd ym misoedd olaf y llynedd i lunio rhagair ar gyfer blodeugerdd newydd sbon gan olygydd y gyfrol hon, sef y Prifardd Eirwyn George. Tristwch o’r mwyaf felly oedd dod i wybod am ei farwolaeth.”
Gan nodi hefyd y golled o’r cyfle i ddathlu ei waith “fel athro beirdd ac un a gyflawnodd gymaint dros farddoniaeth yn ei ardal enedigol. Mae yna ddau ddeg chwech o lyfrau wedi eu cyhoeddi ganddo am Sir Benfro, boed yn llyfrau am ddaearyddiaeth yr ardal, hanes y bardd Waldo Williams neu flodeugerddi o ganu beirdd y fro, a’r cyfan yn tystiolaethu i’w ymroddiad diflino.”
Mae Barddoniaeth Sir Benfro gan Eirwyn George ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.