BYDD criw o enwogion yn mentro i Fachynlleth ar 29 Gorffennaf i herio pêl-droedwyr lleol mewn digwyddiad arbennig er budd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027.

Yn wynebau cyfarwydd mewn amrywiol feysydd - o gerddoriaeth i gyflwyno - bydd aelodau ‘Tîm y Sêr’ yn mynd benben ag aelodau Clwb Pêl-droed Machynlleth ar Gae Glas y dref mewn gornest gystadleuol a hwyliog.

Mae’r digwyddiad yn un o ymdrechion niferus Pwyllgor Apêl Bro Ddyfi i godi arian tuag at yr Eisteddfod a gynhelir yn yr ardal ddechrau Awst 2027.

Meddai Mererid Wigley, Cydlynydd y Gronfa Apêl ac un o drefnwyr y digwyddiad: “Mae Machynlleth yn gyffrous iawn i groesawu tîm o sêr i’r dref, a phob un o’r rheiny â chysylltiad â Maldwyn neu Feirionnydd. Rydym ni’n ddiolchgar iawn iddynt am gytuno i gymryd rhan ac yn edrych ymlaen at gael eu gweld yn serennu ar lwyfan gwahanol i’r arfer, a hynny ar y cae pêl-droed.

“Mae gennym gantorion ac actorion, arbenigwyr antiques, gyrrwyr rali a chyflwynwyr! Bydd y chwaraewyr yn cael eu datgelu bob yn dipyn ar y cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch lygad ar Facebook am fwy o fanylion dros yr wythnosau nesaf.”

Yn ogystal â’r gêm ei hun, bydd nwyddau pêl-droed ar gael i’w prynu mewn ocsiwn ar ddiwedd y noson. Mae’r eitemau’n cynnwys crysau pêl-droed tîm Dynion a Merched Cymru, wedi’u llofnodi.

Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu yn Y Plas a Studio 13 ym Machynlleth, neu ar y gât ar noson y gêm. I’r sawl sy’n dewis prynu ymlaen llawn, mae siop sglodion Hennighan’s y dref yn cynnig gostyngiad o 15% oddi ar archebion bwyd gyda phob tocyn. Bydd y prisiau mynediad fel a ganlyn: £7 i oedolion, £3 i blant, neu £18 am docyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn).