MAE myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi mwynhau llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol a gynhaliwyd yn Abertawe dros benwythnos 1-2 Mawrth.

Myfyrwyr Aberystwyth ddaeth i’r brig gyda’r darian a’r teitl pencampwyr Eisteddfod Rhyng-golegol am y tro cyntaf ers 2015.

Yr Eisteddfod Rhyng-golegol ydi un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru sy’n teithio o amgylch prifysgolion Cymru o gwmpas diwedd mis Chwefror bob blwyddyn.

Nanw Maelor, enillydd y gadair
Nanw Maelor, enillydd y gadair (Submitted)

Mae’r myfyrwyr yn cynrychioli eu prifysgol mewn amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref (ambell i gystadleuaeth eisteddfodol traddodiadol ac ambell gystadleuaeth hwyliog megis ‘bing bong’ ayyb) i ennill y mwyaf o farciau, a tarian yr Eisteddfod.

Gyda dros 500 o fyfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru wedi heidio i Abertawe roedd y cystadlu yn frwd wrth i’r Eisteddfod ail-ymweld â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf ers 2019.

Rebecca Rees, enillydd y goron
Rebecca Rees, enillydd y goron (Submitted)

Dywedodd Elain Gwynedd, Swyddog Materion Cymreig Undeb Aberystwyth a Llywydd UMCA: “Mae hi wir yn fraint i ni’n Aberystwyth gael ein coroni fel pencampwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni, a hithau’n flwyddyn arbennig wrth inni ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu UMCA.

“Dw i mor falch o’r holl aelodau am eu hymroddiad a’u hangerdd dros ddod â’r darian yn ôl i’r coleg ger y lli.

“Mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i arweinyddion a chyfeilyddion Aelwyd Pantycelyn Dafydd, Mari, Fflur, Efa, Celt a Gwenno am eu holl waith caled wrth baratoi tuag at yr Eisteddfod.

“Diolch o galon hefyd i Brifysgol Abertawe am drefnu’r Eisteddfod ac am y croeso cynnes, yn wir bydd hi’n un sy’n aros yn y cof am byth.

“Mae UMCA yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol i Aberystwyth yn 2025, gan obeithio y byddwn yn cipio’r wobr unwaith yn rhagor!’”

Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr fuodd yn cynrychioli Aberystwyth eleni yn enwedig i’r canlynol am ddod i’r brig yn rhai o brif gystadlaethau’r dydd:

Enillydd coron yr Eisteddfod – Rebecca Rees, Prifysgol Aberystwyth.

Enillydd cadair yr Eisteddfod – Nanw Maelor, Prifysgol Aberystwyth.

Enillydd y Fedal Gelf - Nia Williams, Prifysgol Aberystwyth

Enillydd y Fedal Wyddoniaeth - Fflur Edwards, Prifysgol Aberystwyth

Mae pawb nawr yn edrych ymlaen i groesawu’r Eisteddfod i Aberystwyth yn 2025.