DRIDIAU ar ôl iddi ennill Cân i Gymru, mae athrawes o Landysul wedi perfformio mewn noson arbennig BAFTA Cymru yn Llundain, i fawrion y diwydiant ffilm a theledu yng nghwmni’r cynllunydd gwisgoedd o Gymru Lindy Hemming (Wonder Woman / The Dark Night / Wonka / Casino Royale).

Yn cynnal y noson oedd cyfarwyddwr ffilmiau Wonka a Paddington 1 & 2, Paul King ac roedd y digwyddiad yn rhan o Wythnos Cymru Greadigol a gynhelir gan BAFTA Cymru ar y cyd â Chymru Greadigol.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae Sara Davies bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.

Ar ôl perfformio yn y digwyddiad cafodd ei chynnal ym Mhencadlys BAFTA yn Llundain, meddai: “Dwi’n teimlo’n hynod o lwcus a chyffrous i gael canu yn y digwyddiad ac o flaen enwau mawr y diwydiant ffilm – roedd yn fraint ac anrhydedd llwyr!

Sara Davies performs at the BAFTA Cymru: An Audience with Lindy Hemming, photographed by Feruza Afewerki on Monday 3 March 2024 at BAFTA, 195 Piccadilly, London, U.K. (Image ©BAFTA/Feruza Afewerki, 2024).
Sara Davies yn perfformio yn Llundain (Feruza Afewerki/BAFTA)

“Roedd yn hyfryd iddyn nhw glywed fy nghaneuon a hynny yn yr iaith Gymraeg. Diolch yn fawr iawn I BAFTA Cymru hefyd am fy ngwahodd ac am werthfawrogi a rhoi platfform i gerddoriaeth Cymraeg mewn digwyddiadau y tu allan i Gymru.

“Roedd hefyd yn wych gallu perfformio fel enillydd Cân i Gymru eleni a sôn wrth bawb yn y digwyddiad am y gystadleuaeth!”

Dywedodd pennaeth dros dro BAFTA Cymru, Rebecca Hardy: “Gyda Coco & Cwtsh yn gefnogwr blynyddol i BAFTA Cymru, rydym yn falch iawn fod un o'u hartistiaid talentog, Sara Davies, wedi perfformio yn y digwyddiad arbennig hwn.

“Wrth inni gynnal y noson ar y cyd â Chymru Greadigol, fe wnaeth perfformiad Sara, ynghyd â'r cyfle i ddathlu gyrfa lewyrchus Lindy Hemming yn sicr gyfoethogi dathliadau'r wythnos bwysig hon.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Coco & Cwtsh, Ffion Gruffudd: “Rydyn ni wrth ein boddau fod BAFTA Cymru wedi gwahodd Sara i berfformio yn eu dathliadau blynyddol Gŵyl Dewi eleni.

“Roedd yn gyfle anhygoel i Sara arddangos ei doniau y tu allan i Gymru yng nghwmni rhai o dalentau mwyaf y diwydiant. Ni mor falch ohoni a llongyfarchiadau enfawr iddi hefyd ar ei llwyddiant yn Cân i Gymru eleni.”

Ar ôl rhyddhau ei chân gyntaf Robin Goch gafodd ei ddewis fel Trac yr Wythnos ar Radio Cymru'r llynedd, mae Sara bellach yn gweithio ar ei halbwm cyntaf fydd yn cael ei rhyddhau eleni.

Ma ei chân buddugol Cân I Gymru Ti, yn drac yr wythnos ar Radio Cymru.