BYDD cyfres ddogfen newydd S4C, Portmeirion, yn cynnig cipolwg tu fewn i un o atyniadau mwyaf adnabyddus Cymru wrth i’r pentref Eidalaidd ddathlu canmlwyddiant eleni.

Mae’r gyfres, bydd i'w gweld ar S4C, S4C Clic a BBCiPlayer o 16 Tachwedd yn cwrdd â rhai o’r 250 o bobl sy’n gweithio ar y safle.

Bydd yn rhoi blas o'r gwaith sy’n digwydd o ddydd i ddydd i gynnal yr adeiladau hanesyddol, gofalu am y gerddi a sicrhau bod y gwesty a’r gwasanaethau eraill yn rhedeg yn esmwyth.

Wrth i’r atyniad nodi canrif ers i’r pensaer Syr Clough Williams-Ellis brynu stad Aber Iâ yn 1925, mae’r gyfres hefyd yn dilyn rhai o baratoadau dathliadau’r canmlwyddiant.

Ymhlith y staff sy’n rhannu eu straeon mae Gwynedd, Pennaeth Cynnal a Chadw; Martin, y Prif Beintiwr; Mark, Prif Gogydd y gwesty; Sue a Carolyn o’r tîm Cadw Tŷ; ac Andrew, sy’n gweithio yn y golchdy.

Un o geginau brysur Portmeirion
Un o geginau brysur Portmeirion (S4C)

“Mae 'na griw da’n gweithio yma” meddai Gwynedd, y Pennaeth Cynnal a Chadw sydd wedi goruchwylio gwaith atgyweirio ym Mhortmeirion ers 15 mlynedd. “Mae pawb yn cydweithio ac yn trio’u gorau er mwyn llwyddiant Portmeirion.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cadw safon Portmeirion i fyny a bod gwaith graenus yn cael ei wneud, sy’n diogelu’r adeiladau am flynyddoedd i ddod” ychwanega.

Mae Martin, y Prif Beintiwr, yn ymddeol eleni ar ôl bron i 50 mlynedd yn helpu i gynnal ymddangosiad a chymeriad unigryw adeiladau’r pentref.

Yn ôl Martin, roedd Syr Clough Williams-Ellis yn awyddus i sicrhau nad oedd yr adeiladau’n edrych yn rhy berffaith nac yn artiffisial:

“Base Syr Clough ddim isio i’r lle edrych fel gwlad Disney. O’dd o isho fo wedi cael tywydd. Dyna pam dan ni’n rhoi gwahanol shades ar yr adeiladau, i neud iddyn nhw edrych yn hen yn syth er bo' nhw’n lân.”

Mae Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion ac ŵyr i Syr Clough Williams-Ellis, yn trafod pwysigrwydd gwarchod y safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol:

“Gofalwyr ydan ni” meddai Robin. ”Gofalu am y lle am gyfnod a'i adael mor daclus ag y medrwn ni i bwy bynnag ddaw yn ein sgìl ni eto.

”Dan ni di cyrraedd man erbyn heddiw lle ma’r pentref mewn lle dipyn gwell nag oedd o 100 mlynedd yn ôl. Mi fase fy nhaid wrth ei fodd yn gweld bod ‘na bobl wedi mynd ati o ddifri i gynnal y lle, ond heb newid dim byd yn weledol.”

Bydd Portmeirion yn cael ei darlledu ar S4C ac ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o 16 Tachwedd.